Dur: Angen cymorth o fewn 'dyddiau nid wythnosau'

  • Cyhoeddwyd
Tata sign

Does yna ddim modd cael adferiad i'r economi ehangach wedi'r pandemig ddod ben heb fod yna ddiwydiant dur cryf ac iach, yn ôl yr aelod seneddol Stephen Kinnock.

Mae aelodau seneddol y gwrthbleidiau yn galw ar Lywodraeth y DU i roi benthyciadau i gwmnïau dur o ganlyniad i ostyngiad yn y galw am ddur yn sgil haint coronafeirws.

Yn ôl Mr Kinnock, AS Aberafan, etholaeth sy'n cynnwys Port Talbot, mae angen cymorth o fewn "dyddiau nid wythnosau."

Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi ymroi i gefnogi adfywid economaidd o fewn y sector dur.

Ar 10 Mai fe wnaeth 10 o aelodau seneddol o Gymru ysgrifennu at y canghellor yn gofyn am gefnogaeth ychwanegol i'r sector,

Yr wythnos diwethaf yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog gofynnodd Jessica Morden, AS Dwyrain Casnewydd, am gymorth ar frys i waith dur Tata yn Llanwern a gwaith du'r Orb.

Dywedodd y byddai'r safleoedd yn gallu chwarae rhan allweddol mewn unrhyw adferiad i'r economi - ond eu bod yn dal i aros i glywed am gefnogaeth gan y llywodraeth.

Atebodd Boris Johnson y byddai gweinidogion yn gwneud popeth yn eu gallu "i sicrhau bod cynhyrchu dur yn parhau yn y DU."

Ond dyw'r llywodraeth heb ymroi i gefnogi'r diwydiant pe bai cwmnïau'n methu.

Ar raglen Politics Wales y BBC dywedodd Mr Kinnock mai'r diwydiant dur yw "asgwrn cefn y sector cynhyrchu."

Disgrifiad o’r llun,

Stephen Kinnock: "Angen cymorth o fewn "dyddiau nid wythnosau"

Mae'r galw am ddur wedi gostwng yn aruthrol yn ystod yr argyfwng coronafeirws, yn enwedig gan fod diwydiannau fel y rhai cynhyrchu ceir wedi dod i stop.

Cyn y pandemig fe wnaeth cwmni Tata golled o £371m cyn treth. Roedd yna hefyd ansicrwydd o fewn y diwydiant am y dyfodol yn sgil Brexit.

Benthyciadau i arbed swyddi

Mae yna adroddiadau fod Llywodraeth y DU yn ystyried "benthyciadau opsiwn olaf" i rai cwmnïau, pe bai eu colli yn cael effaith andwyol ar yr economi.

Ond fe fyddai gweinidogion hefyd eisiau sicrwydd y byddai unrhyw fenthyciadau gan y trethdalwyr yn cael eu had-dalu.

Cred Mr Kinnock y byddai benthyciadau yn cael eu had-dalu ac mae'n annog y llywodraeth i ystyried y gost i'r trethdalwyr o beidio eu cefnogi.

"Mae yna 4,000 o swyddi sy'n talu' cyflogau cymharol dda yng ngwaith dur Port Talbot, mae yna filoedd yn fwy o swyddi sy'n talu cyflogau tebyg yn y diwydiant dur ledled y wlad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith dur Port Talbot yn cyflogi tua 4,000

Yn ôl Dr Kathryn Ringwald-Wildman, sy'n arbenigwr ar y diwydiant dur, mae'r haint wedi taro sector oedd eisoes dan bwysau.

"Mae'r diwydiant dur mewn safle hynod fregus ar hyn o bryd, a bydd angen cefnogaeth y llywodraeth i oroesi.

"Byddant wedi bod angen cefnogaeth heb y pandemig."

Penderfyniad dewr

Dywedodd fod unrhyw benderfyniad i gefnogi'r diwydiant drwy ddefnyddio arian y trethdalwyr yn un wleidyddol.

"Mae'n bosib y bydd gwleidyddion yn penderfynu gohirio'r penderfyniad - gadael i'r cwmnïau oroesi neu suddo.

"Byddai'n cymryd llywodraeth ddewr iawn i ddweud nad ydym angen diwydiant dur yn y DU.

"O ran y trafodaethau yn sgil penderfyniad Brexit, mae'r pwyslais wedi bod ar y syniad gynhyrchu dur ein hunain, defnyddio dur ein hunain a phrynu dur ein hunain.

"Fe fyddwn, wrth gwrs, yn masnachu ar y farchnad ryngwladol.

"Ond roedd y syniad y byddai ein diwydiant dur cynhenid yn un o brif gyflenwyr ein diwydiant cynhyrchu yn un sylfaenol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tata, sydd wedi rhoi tua 2,400 o weithwyr ar gyfnod 'furlough' fod y pandemig wedi "arwain cwymp sydyn yn y galw am ddur.

Ychwanegodd ei fod yn debyg i fod mewn storm economaidd ond un yr oeddynt yn gobeithio goroesi.

"Rydym mewn trafodaethau gyda llywodraethau Cymru a'r DU er mwyn cael bob cefnogaeth sy'n bosib."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi "bod yn trafod gyda busnesau o bob rhan o'r economi, ac eisoes wedi cynyddu maint a dalgylch nifer o gynlluniau cefnogaeth, gan gynnwys benthyciadau i gwmnïau dur gyda throsiant o dros £45m.

"Rydym yn cydnabod fod amgylchiadau economaidd yn parhau i fod yn heriol, ac rydym wedi ymroi i gefnogi adfywiad y sector."