Addysg: Pryder y gall newidiadau effeithio plant bregus
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i'r tymor orffen ar 24 Gorffennaf
Mae yna bryderon na fydd rhai o blant mwyaf bregus Cymru yn cael eu gweld gan athrawon oherwydd na fydd rhai o ysgolion Cymru yn aros ar agor am gyfnod o bedair wythnos.
Dydd Llun 29 Mehefin fe fydd ysgolion Cymru yn ailagor i'r holl flynyddoedd - gyda nifer cyfyngedig yn bresennol bod diwrnod.
Ond dywed rhai cynghorau na fydd y tymor yn cael ei ymestyn am wythnos fel oedd bwriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru.
Mae hyn o ganlyniad i drafodaethau ynglŷn â chytundebau gyda gwahanol undebau.
Dywedodd un prifathro wrth y BBC y byddai hyn yn golygu y byddai rhai plant mewn sefyllfa fregus dros gyfnod y gwyliau.
Yn ôl Karina Hanson, dirprwy lwydd undeb y prifathrawon yr NAHT, mae nifer o athrawon yn teimlo eu bod "wedi gwneud addewid i rieni a nawr maent yn torri'r addewid."

Mae rhai athrawon yn pryderu am sefyllfa disgyblion bregus
Mae ysgolion wedi bod ar agor drwy gyfnod y pandemig - ond ddim ond ar gyfer disgyblion bregus neu blant gweithwyr allweddol.
Fe fydd yr ysgolion nawr yn ailagor i'r holl ddisgyblion ar 29 Mehefin, ond gyda dosbarthiadau llai, a gwahanol flynyddoedd yn mynychu ar wahanol ddiwrnodau.
Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams wedi dweud y byddai bob plentyn yn cael cyfle i "ddal fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi".
Roedd hi wedi gobeithio ymestyn y tymor i 24 Gorffennaf.
Ond ar ôl ei chyhoeddiad mae rhai o'r undebau wedi bod yn trafod gyda'r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ynglŷn â'u cytundebau.
Ysgolion i gau 17 Gorffennaf
Oherwydd ystyriaethau cytundebol, mae rhai o'r cynghorau yn poeni na fyddai digon o staff cymorth - cynorthwyydd dosbarth a glanhawyr - i gynnal yr ysgolion am wythnos ychwanegol.
Mae nifer o gynghorau - Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili Wrecsam a Blaenau Gwent - wedi dweud na fyddant y gallu ymestyn y tymor, gan olygu cau ar 17 Gorffennaf.
Hyd yn hyn dim ond Conwy sydd wedi cadarnhau y bydd ysgolion y dychwelyd am bedair wythnos.

Yn ôl Karina Hanson, sydd hefyd yn bennaeth ar ysgol yn Abertawe, mae athrawon yn bryderus iawn am blant sydd o bosib mewn sefyllfa bregus oherwydd y cyfnod clo.
Dywedodd y byddai cadw ysgolion ar agor am wythnos ychwanegol yn rhoi cyfle i bob un o'r disgyblion - y rhai sy'n cael eu hanfon i'r ysgol - i gael cyfnod yn y dosbarth.
"Rydym wedi gweld y mwyaf difreintiedig, rydym wedi gallu cadw mewn cysylltiad gyda nhw, ond rydym yn hynod bryderus am y plant hynny sydd o bosib wedi eu rhoi mewn sefyllfa fregus dros y misoedd diwethaf," meddai.


Mae'r Ceidwadwyr yn y Senedd wedi beirniadu llywodraeth Cymru am adael i gynghorau lleol "ysgwyddo'r pwysau am sicrhau fod ysgolion yn parhau ar agor am bedair wythnos."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra rydym yn parhau i argymell pedair wythnos...rydym yn gwybod yn gwybod yn y pendraw fod hwn yn benderfyniad i'r awdurdodau lleol, sef cyflogwyr staff yr ysgolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020