'Pwyslais ar ddysgu tu allan' wrth ailagor ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Kirsty WilliamsFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi dweud y bydd ysgolion yn ailagor ar 29 Mehefin

Bydd canllawiau newydd ar gyfer agor ysgolion yng Nghymru yn cynnwys pwyslais ar ddysgu y tu allan ac mewn grwpiau bychan, gyda phlant hefyd yn bwyta wrth eu desgiau.

Mae'r ddogfen gan Lywodraeth Cymru yn dweud y dylai athrawon ganolbwyntio mwy ar "les, chwarae a dysgu tu allan" pan fydd disgyblion yn dychwelyd.

Ond maen nhw'n cydnabod y bydd hi'n anodd sicrhau bod disgyblion cynradd yn cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, ac y dylai staff geisio sicrhau "rhywfaint o ymbellhau" yn lle.

Fydd dim rhaid i ddisgyblion ac athrawon wisgo offer diogelwch personol chwaith, oni bai bod disgybl "yn dangos symptomau" neu bod y weithgaredd yn gofyn am fod yn agos at bobl.

Mae undebau addysg eisoes wedi mynegi pryder, fodd bynnag, na fydd ysgolion yn gallu paratoi'n llawn ar gyfer y newidiadau cyn iddyn nhw orfod ailagor.

'Rhywfaint o bellter'

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y byddai disgyblion Cymru'n dychwelyd i'r ysgol ar 29 Mehefin, a bod y tymor wedi'i ymestyn tan 27 Gorffennaf.

Bydd hynny'n cynnwys pob blwyddyn ysgol - ond am amser cyfyngedig yn unig, gydag ond un o bob tri disgybl yn bresennol ar yr un pryd, a dosbarthiadau "llawer llai".

Dywedodd Ms Williams eu bod wedi ceisio "cael cydbwysedd" rhwng iechyd cyhoeddus ac "hyblygrwydd lleol".

Mae'r ddogfen yn cynnwys cyngor ar sut i sicrhau diogelwch disgyblion ac athrawon pan fyddan nhw'n dychwelyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgolion yng Nghymru wedi bod ar gau ers i'r cyfyngiadau ddod i rym ym mis Mawrth

Ond mae'n cydnabod "nad yw'n ymarferol i ddisgwyl i ddisgyblion gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr" ac y dylai staff geisio sicrhau "rhywfaint o bellter" yn lle hynny.

Dywedodd y llywodraeth y gallai ysgolion ganiatáu i hyd grwpiau o hyd at wyth person gymysgu, ond y dylai rhieni "ddeall a rhoi cydsyniad i hynny gyntaf".

Ar gyfer disgyblion uwchradd fodd bynnag, dylai ysgolion geisio cadw at y rheol dau fetr ble'n bosib.

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai ysgolion geisio sicrhau bod disgyblion yn mynychu am gyfnodau digonol o amser, gydag oriau ysgol, amseroedd cinio a chwarae yn cael ei gwasgaru yn ystod y dydd.

Dim PPE gorfodol

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud na fydd angen defnyddio offer diogelwch personol ar gyfer "gweithgareddau addysg arferol", ond y dylid gwneud hynny "os yw disgybl yn dangos symptomau" neu os oes angen darparu gofal agos.

Yr awgrym yw y dylai athrawon ganolbwyntio ar "ddysgu eto" yn hytrach na cheisio dal i fyny gyda gwaith fyddai wedi cael ei wneud dros y cyfnod clo.

"Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y mwyafrif o ddisgyblion a rhieni'n gallu manteisio ar y cyfle hwn mewn ffordd ddiogel, strwythuredig a synhwyrol," meddai Ms Williams.

"Wrth i ni barhau i gadw Cymru'n ddiogel, byddwn yn parhau i ddatblygu'r canllawiau dros dymor yr haf ac ym mis Medi gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf.

"Iechyd a lles ein dysgwyr a staff yw ein blaenoriaeth bob amser."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pwyslais ar gael plant i chwarae a bod tu allan pan fyddan nhw'n dychwelyd i'r ysgol

Mae canllawiau'r llywodraeth hefyd yn dweud fod angen ceisio ailsefydlu trefn sefydlog ond y dylai'r pwyslais fod ar "fwynhad plant".

Ymhlith y camau ymarferol, mae'r ddogfen yn awgrymu:

  • Lleihau symud rhwng dosbarthiadau cymaint â phosib;

  • Annog rhieni i anfon eu plant i'r ysgol mewn dillad glan pob dydd pan fo hynny'n bosib;

  • Cerdded neu feicio i'r ysgol os yn bosib, a cheisio osgoi trafnidiaeth gyhoeddus;

  • Bod awdurdodau lleol yn gweithio gydag ysgolion i weld beth yw'r galw am fysus a thrafnidiaeth ysgol.

'Cam pwysig'

Wrth i'r disgyblion ddychwelyd, dywedodd Llywodraeth Cymru fod cyfathrebu rhwng athrawon ac ysgolion yn "hanfodol".

Mae rhai ysgolion wedi parhau i fod ar agor yn ystod y pandemig, ond dim ond i nifer cyfyngedig megis plant gweithwyr allweddol.

Ond mae undebau addysg eisoes wedi dweud nad oes gan ysgolion ddigon o amser i baratoi ar gyfer ailagor ar 29 Mehefin, ac y byddai'n well iddyn nhw aros ar gau tan fis Medi.

Dywedodd undeb NASUWT ddydd Mercher na ddylai'r llywodraeth fwrw ymlaen gyda'u cynlluniau i ailagor "oni bai bod modd dangos ei bod hi'n saff gwneud hynny".

Wrth ymateb i'r ddogfen fodd bynnag dywedodd NEU Cymru eu bod yn "croesawu" y canllawiau, er y byddai'n well ganddyn nhw fod wedi gweld ysgolion yn "ailagor ym mis Medi".

"Rydyn ni'n croesawu'r ffaith nad oes disgwyl i athrawon ddarparu gofal i blant gweithwyr allweddol dros yr haf," meddai David Evans, ysgrifennydd yr undeb yng Nghymru.

"Mae awdurdodau lleol mewn lle da i ddarparu trefniadau a sicrhau bod modd cynorthwyo'n gweithwyr allweddol, fel gofalwyr a gweithwyr iechyd, wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol."

'Canllawiau aneglur'

Ychwanegodd undeb ASCL, sy'n cynrychioli penaethiaid, eu bod nhw hefyd yn croesawu cyhoeddiad y ddogfen fel "cam tuag at ddod a phlant yn ôl i'r ystafell ddosbarth".

"Mae'n hanfodol fod pawb yn cefnogi'r ymgyrch genedlaethol yma er mwyn i ni barhau gyda'r dasg bwysig o weld lle 'dyn ni arni ar addysg a lles plant, a dechrau dod â normalrwydd yn ôl ar ôl cyfnod hir o darfu," meddai Eithne Hughes, cyfarwyddwr yr undeb.

Ond dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, bod "pryderon difrifol yn parhau ynghylch natur gymhleth y dasg sy'n wynebu ysgolion mewn cyfnod difrifol o fyr".

"Nid yw'r canllawiau'n datgan o gwbl, neu ddim yn ddigon clir, ynghylch nifer o faterion allweddol y byddem wedi'i ddisgwyl," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddogfen yn cydnabod y bydd hi'n anodd cadw pellter cymdeithasol rhwng plant cynradd

Roedd sôn hefyd wedi bod am ddod a'r gwyliau haf ymlaen - cynllun oedd yn cael ei ffafrio gan y prif swyddog meddygol - ond cafodd hynny ei wrthod gan yr undebau a'r llywodraeth.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai holl ddisgyblion cynradd Lloegr yn dychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf wedi'r cwbl.

Ond mynnodd Llywodraeth Cymru na fyddai'r tro pedol hwnnw'n effeithio ar eu cynlluniau nhw.

Mewn arolwg a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos dywedodd dros hanner y bobl ifanc a holwyd eu bod nhw'n poeni am ddisgyn ar ei hôl hi gyda'u gwaith ysgol oherwydd yr argyfwng coronafeirws.