Risgiau, heriau a straen ailagor ysgolion arbennig

  • Cyhoeddwyd
Arwydd cadw pellter
Disgrifiad o’r llun,

Mae natur y gofal personol yn achos rhai disgyblion yn gwneud cadw pellter yn anodd neu amhosib

Mae staff ysgolion ar hyd a lled Cymru wedi bod wrthi fel lladd nadredd yn paratoi i ailagor fore Llun.

Er mai niferoedd cyfyngedig fydd yn cael mynd yn ôl i'r ysgol mae'r paratoadau yn gorfod bod yn hynod o fanwl er mwyn diogelu staff a disgyblion.

Mae gan Ysgolion Arbennig her ychwanegol, wrth gwrs, gan fod nifer o'r disgyblion angen gofal personol.

Ac er mai ychydig o blant fydd yn mynd i'r ysgolion hyn yn ystod y tair wythnos nesaf mae rhaid i'r trefniadau fod yn berffaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai rhieni'n dal â phryder ynghylch danfon eu plant yn ôl i'r ysgol, medd Bethan Morris Jones

Mae yna 115 o ddisgyblion a 60 aelod o staff yn Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon. Mi fydd pob disgybl yn cael cyfle i fynd i'r ysgol ddwywaith yn ystod y tair wythnos nesaf.

Yn ôl y pennaeth, Bethan Morris Jones, mae rhyw dri o blant wedi bod yn mynd i'r ysgol yn ystod y misoedd diwethaf gan bod eu rhieni yn weithwyr allweddol. O ddydd Llun ymlaen mi fydd mwy o ddisgyblion yn cael dod i'r ysgol.

Mae'r rhieni, meddai, yn dal yn bryderus ac mae llawer yn dymuno cadw eu plant adref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pob ysgol wedi gorfod cynnal asesiadau risg manwl wrth baratoi i ailagor

"Be mae o'n olygu i ni ydi dosbarthiadau ychwanegol yn agored, mwy o staff yn dod i mewn, a pwysigrwydd wedyn i gadw staff a disgyblion mewn dosbarthiadau penodol mewn swigod, er mwyn eu diogelu nhw yn ystod y dydd rhag croes-heintio," meddai.

"Fel pob ysgol yng Ngwynedd, rydan ni wedi gorfod gwneud asesiad risg trylwyr, sy'n golygu bod ni wedi meddwl am bob agwedd o rediad diwrnod yr ysgol.

"Yma, oherwydd ei bod yn ysgol arbennig, mae yna ofal personol sydd ei angen ar rai disgyblion felly mae eisiau cadw nhw yn saff. Fydd dim posib i staff gadw pellter oddi wrthyn nhw, felly mae rhaid cael yr offer i gyd."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfle i staff ddysgu gwersi dros y tair wythnos nesaf wrth baratoi ar gyfer mis Medi

Pa wahaniaeth wnaiff cwta dair wythnos?

Yn ystod y tair wythnos nesaf dim ond am ddau ddiwrnod yn unig y bydd pob disgybl yn cael dod i'r ysgol, sy'n codi cwestiwn: a ydy'r holl drefniadau yn werth yr ymdrech?

"Mae o wedi bod yn dipyn o waith paratoi a dipyn o elfen o straen o ran fy nghyfrifoldeb i i gant a phymtheg o ddisgyblion a bron i chwe deg o aelodau staff," meddai Bethan Morris Jones.

"Yr unig beth mae o'n mynd i wneud ydi rhoi cyfle i rieni sy'n dymuno anfon eu plant. Dwi ddim yn siŵr sut effaith gaiff o arnyn nhw achos maen nhw yn dod yn ôl i awyrgylch sydd ddim byd tebyg i'w hysgol braf arferol.

"Ac wedyn i ni fel staff mae yn mynd i fod yn gyfle i ni ddysgu mwy o wersi wrth i ni baratoi ar gyfer beth bynnag fydd y drefn newydd ym mis Medi."