Covid-19: Pump yn rhagor wedi marw yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae pump yn rhagor o bobl wedi marw o haint coronafeirws yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 1,502.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi hefyd bod 46 achos newydd - mae 15,577 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael prawf positif Covid-19.
Hyd yma mae 133,097 o unigolion wedi cael prawf yng Nghymru ac mae 117,520 o'r rheiny wedi bod yn negyddol.
Mae 172,079 o brofion wedi'u cynnal gyda rhai pobl wedi cael prawf fwy nag unwaith.

Graff yn dangos nifer y marwolaethau sy'n cael eu cyhoeddi bob dydd
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn seiliedig gan fwyaf ar farwolaethau sydd wedi digwydd mewn ysbytai.


Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020