Paratoi amrywiol gynlluniau ar gyfer ysgolion ym Medi

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai hi'n croesawu'n fawr petai ysgolion yn gallu dychwelyd yn llawn ym mis Medi petai'r cyngor gwyddonol yn nodi bod hynny yn ddiogel.

Ond dywedodd bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer amrywiol sefyllfaoedd.

Mae rhai pryderon wedi codi am y math o addysg sy'n cyfuno gwaith dosbarth, dysgu ar-lein a gwaith cartref.

Mae'r gweinidog yn derbyn bod "amrywiaeth eang" wedi bod ym mhrofiadau pobl ers dechrau'r pandemig.

Mae arolwg gan Goleg yr UCL wedi dangos mai 1.9% o ddisgyblion Cymru oedd yn cael pedair neu mwy o wersi ar-lein tra bod y ganran ar gyfartaledd yn y DU yn 7%.

Wrth gael ei holi ar raglen Politics Wales a oedd y ddarpariaeth ar-lein wedi bod yn ddigon safonol dywedodd Ms Williams: "Ry'n wedi gofyn i athrawon i ymgymryd ag addysgeg nad ydynt wedi arfer â hi ac ry'n wedi gweld mwy o wersi byw yn digwydd.

Mae ein llwyfan digidol Hwb, dolen allanol wedi cael miloedd o bobl yn mewngofnodi gydol y pandemig ac mae athrawon wedi elwa'n fawr ar yr adnodd.

Ychwanegodd bod angen mwy o waith ar sicrhau bod y cyfuniad o ddulliau dysgu cystal ag y mae angen iddyn nhw fod os yw lledaeniad Covid-19 "yn atal ein plant rhag dychwelyd i'r ysgol" wedi gwyliau'r haf.

Ddydd Llun bydd ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru yn ailagor i'r rhan fwyaf o ddisgyblion er mwyn rhoi'r cyfle i ddisgyblion ddychwelyd am gyfnod cyn gwyliau'r haf.

Yn yr Alban mae'r ysgolion yn anelu i ailagor yn llawn amser heb ymbellhau cymdeithasol ym mis Awst os yw'r haint yn parhau i fod o dan reolaeth.

Yng Ngogledd Iwerddon, y cynllun yw i ysgolion ailagor yn llawn ar 24 Awst gydag ymbellhau cymdeithasol yn gostwng o 2m i 1m.

Yn Lloegr bydd pob disgybl yn dychwelyd yn llawn amser ym mis Medi.

Dywed Ms Williams bod Cymru yn paratoi ar gyfer amrywiol sefyllfaoedd ym mis Medi gan gynnwys cynlluniau ymbellhau metr a dau fetr ac hefyd trefn normal.

"Beth ry'n ni'n ei wneud os yw'r haint yn dychwelyd yn yr hydref, a fydd yn rhaid i ni gau ysgolion eto?" meddai.

"Ry'n ni angen cynllun i wneud hynny yn drefnus a chefnogi addysgu adref."

'Rhieni yn gallu dychwelyd i'r gwaith?'

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr gan swyddog o Lywodraeth Cymru sy'n nodi "na fydd normalrwydd ym mis Medi".

Mae'r llythyr, a gafodd ei anfon i riant ar ddydd Mawrth, 23 Mehefin gan swyddogion yn adran addysg y llywodraeth yn nodi: "Bydd effaith y coronafeirws yn parhau am gryn amser.

"Bydd yn rhaid i ysgolion weithredu'n wahanol ym mis Medi ac am gyfnod wedi hynny.

"Bydd ysgolion yn teimlo'n wahanol, bydd disgyblion yn cyrraedd a gadael, cael toriad a bwyta ar amserau gwahanol, bydd y dosbarthiadau yn llai ac fe fydd amrywiol ffyrdd o ddysgu."

Dywed y Ceidwadwr Cymreig AS, Andrew RT Davies: "Y gwir trist yw bod digwyddiadau yr wythnosau diwethaf wedi dangos gwacter yn arweinyddiaeth y llywodraeth yn y modd y mae'r cynlluniau ysgolion wedi cael eu rhoi at ei gilydd.

"Mae diffyg uchelgais y gweinidog addysg a'i hadran ynghylch cynlluniau addysgu ym Medi yn codi gwrychyn ond hefyd yn anghyfrifol.

"Mae rhieni yn poeni'n ofnadwy ac yn bryderus am ddyfodol eu plentyn - ac ni fyddant yn gallu dychwelyd i'r gwaith eu hunain oni bai bod lefel dderbyniol o addysgu yn digwydd wedi gwyliau'r haf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel mae'r gweinidog addysg wedi dweud ry'n yn gweithio ar amrywiaeth o gynlluniau ar gyfer ysgolion ym mis Medi.

"Byddwn yn parhau i ddilyn cyngor gwyddonol ac yn gweithredu yn ôl y gofyn."