Cyhoeddi'r llyfrau sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020 wedi ei chyhoeddi gyda chategori newydd Plant a Phobl Ifanc ymhlith yr awduron am y tro cyntaf eleni.
Cafodd enwau'r 12 llyfr Cymraeg eu clywed gyntaf ar BBC Radio Cymru mewn rhaglen arbennig nos Fercher.
Pedwar categori sydd yn bodoli yn Gymraeg a Saesneg sef Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.
Yn ogystal mae'r teitlau ar y rhestr fer yn cystadlu am Wobr Barn y Bobl. Y cyhoedd sydd yn dewis yr enillydd yma a Wales Art Review a Golwg360 sydd yn trefnu'r wobr.
Cyhoeddwyd y rhestr fer ar gyfer y llyfrau Saesneg ar raglen Gareth Lewis BBC Radio Wales prynhawn dydd Mercher.
Rhestr fer Gymraeg
Gwobr Farddoniaeth
Hwn ydy'r llais, tybad?, Caryl Bryn
Ar Ben y Lôn, Idris Reynolds
Pentre Du, Pentre Gwyn, Myrddin ap Dafydd
Gwobr Ffuglen
Iaith y Nefoedd, Llwyd Owen
Gwirionedd, Elinor Wyn Reynolds
Babel, Ifan Morgan Jones
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl, D Ben Rees
Merched y Chwyldro, Gwenan Gibbard
Byd Gwynn, Cofiant T Gwynn Jones, Alan Llwyd
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
Chwedlau'r Copa Coch: Yr Horwth, Elidir Jones
Genod Gwych a Merched Mentrus, Medi Jones-Jackson
Llyfr Adar Mawr y Plant, Onwy Gower
Y beirniaid ar gyfer y llyfrau Cymraeg y tro hwn oedd y cyn newyddiadurwraig a chyn olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw, Betsan Powys, y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a'r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.
Dywedodd Casi Wyn: "Braint a phleser yw bod yn rhan o banel beirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni.
"Ar ôl treulio misoedd yn ymgolli yn y darllen - dyma arddangosiad o weithiau awduron profiadol i ddyfodiad lleisiau o'r newydd.
"Braf felly cael rhannu'r rhestr fer hon gyda chi o'r diwedd, yn ddathliad o gyfoeth ein hiaith a'n diwylliant."
Bydd enillwyr bob categori ac enillydd Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod Gŵyl AmGen rhwng dydd Iau 30 Gorffennaf a dydd Sul 2 Awst.
Gŵyl yw hon rhwng BBC Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol a'r nod yw llenwi'r bwlch y mae Eisteddfod Ceredigion yn ei adael eleni.
Yn ôl Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, mae'r mudiad yn falch bod Gŵyl AmGen yn digwydd eleni.
"Er nad oes modd i ni gynnal ein seremoni hwyliog arferol yr haf hwn, mae'r bartneriaeth hon yn ein galluogi i rannu cyffro â bri Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda chynulleidfaoedd creadigol Cymru lle bynnag yn y byd y bônt.
"Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch yr holl awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer 2020 - mae eich gweithiau yn arbennig."
Bydd yr enillwyr yn y categorïau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar raglen BBC Radio Wales Arts Show nos Wener 31 Gorffennaf.
Y beirniaid ar gyfer y gwobrau hyn yw'r awdur a'r darlunydd Ken Wilson-Max; yr awdur, athrawes a chyfieithydd Sampurna Chattarji; a'r Ysgolhaig Fulbright, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd Gŵyl y Gelli Tiffany Murray.
£3,000 fydd prif enillwyr y wobr yn y ddwy iaith yn derbyn gyda enillydd bob categori yn derbyn gwobr ariannol o £1,000.
Mae'r rhai ddaeth i'r brig yn eu categorïau hefyd yn derbyn tlws Llyfr y Flwyddyn sydd wedi'i ddylunio gan yr arlunydd a gof Angharad Pearce Jones.
Rhestr fer Saesneg
Gwobr Farddoniaeth
Fur Coats in Tahiti, Jeremy Over
Erato, Deryn Rees-Jones
Footnotes to Water, Zoë Skoulding
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Dignity, Alys Conran
Broken Ghost, Niall Griffiths
Stillicide, Cynan Jones
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Brando's Bride, Sarah Broughton
Where There's a Will, Emily Chappell
On the Red Hill, Mike Parker
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
The Girl Who Speaks Bear, Sophie Anderson
Butterflies for Grandpa Joe, Nicola Davies
Max Kowalski didn't mean it, Susie Day
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020