Cymorth i'r celfyddydau wedi cyhoeddiad £59m i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae degau o enwau mawr y byd celfyddydol wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i ddiogelu'r sector, ar ôl cyhoeddiad y bydd £59m o gymorth ariannol ar gael.
Yn gynharach cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n gwario £1.57bn ar y diwydiannau creadigol wrth ymateb i argyfwng coronafeirws.
Drwy broses datganoli, bydd £59m yn dod i Gymru, a Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut i'w wario.
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson y byddai'n "diogelu'r sector am genedlaethau i ddod".
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r arian, ond fe wnaeth llefarydd dynnu'n ôl rhan o ddatganiad blaenorol oedd yn dweud y byddai'n helpu "diogelu nifer sylweddol o swyddi yn y sector".
Pan ofynnodd BBC Cymru pam bod y datganiad wedi ei newid, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'n clustnodi arian sy'n dod o ganlyniad i wariant yn Lloegr tan ei fod yn cael ei drafod gan y cabinet.
Mae'r actorion Rhys Ifans a Sharon Morgan, y dramodydd Garry Owen, a'r cyfarwyddwr Bethan Marlow ymhlith y rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr, a drefnwyd gan Blaid Cymru, yn galw am ddefnyddio'r £59m i ddiogelu dyfodol y sector.
Dywedodd Sharon Morgan ei bod yn falch bod arian ar gael i helpu diogelu canolfannau fel Pontio ym Mangor a Chapter yng Nghaerdydd, ac mai'r flaenoriaeth yw sicrhau cymorth i actorion a gweithwyr llawrydd mewn meysydd creadigol.
Wedi pedwar mis o argyfwng, mae artistiaid mewn sefyllfa ariannol ddifrifol meddai: "Mae pobl yn meddwl naill ai ein bod ni'n really gyfoethog neu mai hobi yw e.
"Dy'n nhw ddim yn meddwl amdano fe fel gwaith, a'n bod ni'n gorfod ffindo ffordd o roi bwyd ar y ford a tô uwch ein pennau ni."
Ychwanegodd ei bod yn pryderu'n fawr am yr effaith posib heb gymorth: "Bydd pobl yn gadael y proffesiwn, a bydd ein bywyd celfyddydol ac artistig ni yng Nghymru yn colli ei gyfoeth a'i egni.
"Ac mae hwnna mor bwysig mewn gwlad fach lle mae cymaint o greadigrwydd yng Nghymru.
"Bydde fe'n golled enfawr i bawb yng Nghymru, nid dim ond i ni y bobl greadigol."
Disgwyl cyhoeddiad
Yn y gynhadledd ddyddiol ddydd Llun, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford y byddai ei lywodraeth yn aros tan ddydd Mercher i benderfynu sut i wario'r arian.
Dywedodd bod hynny'n dibynnu ar "ba gyhoeddiadau eraill mae'r canghellor yn eu gwneud" ac y byddai cabinet Cymru'n edrych ar "yr holl becyn sydd ar gael i Gymru".
Oherwydd datganoli, mae'r gwariant gan Lywodraeth y DU yn golygu bod £188m ar gael i lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Llywodraeth y DU mai dyma'r pecyn mwyaf o gefnogaeth i'r celfyddydau yn y DU erioed.
Dywedodd llefarydd y byddai'r arian yn rhoi "cymorth i sefydliadau celfyddydol hanfodol sydd wedi eu taro'n wael gan y pandemig".
Dywedodd un actor ifanc sydd wedi bod yn gweithio yn y West End bod y cyhoeddiad yn "ryddhad i ni gyd".
Dywedodd Samuel Wyn Morris, sydd wedi bod yn actio yn Les Miserables, ei fod "bach yn emosiynol" wrth glywed y newyddion.
"Mae rhaid i ni weld shwt fydd yr arian yma'n cael ei wario a rhaid i ni wthio am ryw fframwaith ac amserlen i ailagor yn ddiogel unwaith mae'r cyfyngiadau cymdeithasol yn cael eu codi.
"Y peth o'n ni gyd, pawb yn y sioe ac ar y West End yn becso am fwya' oedd cadw contractau yn fyw ac unwaith bod y golau gwyrdd yn cael ei roi ein bod ni'n gallu mynd 'nôl i'r gwaith."
Mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud y bydd yr arian yn help mawr i'r sector creadigol yng Nghymru.
Mae David Melding AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwylliant, yn dweud y bydd yn annog Llywodraeth Cymru i wario'r £59m ar y celfyddydau: "Mae'n amlwg iawn mai dyma fydd un o'r rhannau olaf o'r economi i adfer wedi Covid-19."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, hefyd y dylai'r llywodraeth wario'r holl arian ar y sector.
'Ar ei gliniau'
Ym mis Mai, dywedodd prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, bod y diwydiant yng Nghymru yn colli £1.4m yr wythnos ac "ar ei gliniau" yn sgil y pandemig.
Wrth siarad fore Llun, dywedodd Mr Capaldi mai'r her fyddai sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial.
"Gallwn ni ddim anghofio ein bod yn sôn am bopeth o amgueddfeydd a llyfrgelloedd hyd at theatr a'r celfyddydau," meddai ar BBC Radio Wales.
"Yn amlwg mae gan ein lleoliadau mwy heriau penodol, ond dydw i ddim eisiau anghofio am weithwyr llawrydd.
"Mae'r gweithwyr llawrydd yna sy'n dweud bod gwaith wedi diflannu dros nos ac sydd heb gyfleoedd am waith ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw yna i greu'r gwaith rydyn ni i gyd eisiau ei weld."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020