Cyhoeddi canllawiau cynnal priodasau mewn pandemig
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer priodasau a seremonïau partneriaethau sifil yn ystod y pandemig coronafeirws.
Cafodd y gwaharddiad ar briodasau ei godi ar 22 Mehefin ond fe fydd unrhyw seremoni yn gorfod cael ei chynnal yn unol â rheolau newydd am y tro.
Bydd angen glanhau modrwyau priodas cyn cael eu rhannu ac fe fydd yn rhaid cyhoeddi addunedau priodas mewn lleisiau tawel.
O hyn allan fe gaiff addoldai gynnal priodasau, ac fe fydd nifer cyfyngedig o lefydd ar gael i westeion mewn swyddfeydd cofrestru.
Bydd lleoliadau eraill sydd yn berchen ar drwyddedau priodasau yn parhau ar gau am y tro.
Ni fydd canu torfol yn cael ei ganiatáu yn ystod y seremoni.
Gwesteion
Bydd lleoliadau unigol a swyddfeydd cofrestru yn penderfynu ar faint y gynulleidfa o hyn allan, gan gadw at reol pellter cymdeithasol o 2m.
Dim ond pobl sydd wedi derbyn gwahoddiad i'r briodas fydd yn cael mynychu, heblaw am unigolion sydd am leisio gwrthwynebiad cyfreithiol i'r briodas.
Sut beth yw priodi dan gyfyngiadau Covid-19?
Ni ddylai pobl sydd wedi dangos symptomau o coronafeirws ag sydd yn hunan ynysu fynychu ac fe ddylid fod yn ofalus iawn o les unrhyw westai bregus ei iechyd sydd yn penderfynu bod yno.
Bydd unrhyw westeion sydd yn gorfod teithio'n bell gan aros dros nos ar y ffordd yn cael eu hannog i beidio â mynychu'r briodas.
Fe ddylid cynnig cymorth i gyplau i ddarlledu eu seremoni arlein i westeion sydd ddim yn gallu bod yn bresennol, os mai dyna yw eu dymuniad.
Fe fydd gan y rhai sydd yn cynnal y seremoni'r hawl i atal y seremoni rhag parhau os nad yw gwesteion yn cadw at reolau pellhau cymdeithasol.
Y seremoni
Bydd pobl yn cael eu hannog i wisgo mygydau os ydynt o gartrefi gwahanol ac angen dod o fewn 2m i'w gilydd fel rhan o'r seremoni.
Ni fyddai angen i'r cwpl priodasol gadw pellter oddi wrth ei gilydd. Bydd angen iddynt olchi eu dwylo hefyd wedi trosglwyddo'r modrwyau priodas.
Dylid traddodi'r seremoni mewn "lleisiau isel" achos fe allai weiddi neu godi llais gynyddu'r perygl o ymledu'r haint.

Ni fydd canu torfol na chwythu offerynnau yn cael ei ganiatáu o dan y rheolau newydd, ac fe fydd llyfrau emynau yn cael eu symud o leoliad y seremoni.
Dylid defnyddio ceir sydd wedi eu hurio neu limousines i deithio i'r seremoni dim ond os nad oes unrhyw gerbydau eraill ar gael, ac fe ddylid gosod panel gwydr rhwng y gyrrwr a'r teithwyr.
Y wledd briodasol
Nid fydd modd cynnal cyfarfodydd cymdeithasol neu wledd briodasol yn dilyn y seremoni am y tro.
Ni fydd gan neb sydd ddim ar restr y gwestai yr hawl i ymgynnull tu allan i leoliad y briodas neu'r swyddfa gofrestru.
Ni fydd bwyd na diod yn cael ei werthu yn yr addoldy neu swyddfa gofrestru sydd yn cynnal y briodas chwaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020