Pryder na fydd cefnogaeth i ymfudwyr sy'n ffoi camdriniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ymfudwyr sy'n ffoi rhag trais yn y cartref mewn perygl o golli eu cefnogaeth wedi'r pandemig, yn ôl elusen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol yn ystod y pandemig i gefnogi pobl sydd heb hawl i unrhyw arian cyhoeddus oherwydd eu statws mewnfudo.
Ond am nad yw mewnfudo wedi'i ddatganoli, mae gweinidogion Cymru'n dweud y gallan nhw "ei chael yn anodd helpu pobl" pan na fydd rheswm iechyd cyhoeddus dros wneud hynny.
Dywedodd y Swyddfa Gartref bod cynllun peilot gwerth £1.5m mewn lle i roi arian i elusennau sy'n cefnogi pobl sydd ddim yn gallu derbyn arian cyhoeddus.
Does gan unrhyw un sy'n mynd trwy'r system mewnfudo ddim hawl i arian cyhoeddus fel budd-daliadau.
Mae pobl sydd yn y DU yn gyfreithlon yn gallu bod yn y sefyllfa yma, er enghraifft os oes ganddyn nhw fisa myfyriwr neu fisa trwy briodas.
Dywedodd Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru, Julie James bod £10m wedi'i roi i gefnogi pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn ystod y pandemig, gan gynnwys dioddefwyr trais yn y cartref a phobl sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus.
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fewnfudo ond gan fod Cymru'n gyfrifol am iechyd, maen nhw wedi gallu darparu cymorth i bobl ar sail iechyd cyhoeddus.
"Yn anffodus, unwaith y bydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus wedi dod i ben, oni bai bod Llywodraeth y DU yn gwneud rhywbeth, fe fyddwn ni'n ei chael yn anodd helpu pobl," meddai Ms James.
"Rwy'n enwedig yn bryderus am ferched sy'n ffoi rhag trais yn y cartref, ond sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus, sydd weithiau'n teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond aros am nad oes ganddyn nhw unrhyw le arall i fynd."
'All neb eich cefnogi chi'
Dywedodd Wanjiku Mbugua o gorff Bawso - sy'n darparu llety dros dro i ferched BAME sy'n wynebu trais yn y cartref - ei bod yn bosib na fyddai merched sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus yn cael eu derbyn gan loches am nad ydyn nhw'n gymwys am fudd-dal tai er mwyn ariannu eu lle.
Fe wnaeth Ms Mbugua wynebu sefyllfa debyg 20 mlynedd yn ôl tra'n byw ym Mhen-y-bont.
"Fe es i at yr awdurdod lleol i ofyn am gymorth, tra'n gafael yn fy mabi blwydd oed," meddai.
"Fe ddywedon nhw wrtha i 'all neb eich cefnogi chi - mae'n rhaid i chi fynd yn ôl at eich gŵr'.
"Roedd hi'n sefyllfa mor anodd - roedd gen i blant saith ac un oed ac yn newydd iawn i'r wlad - doeddwn i ddim yn 'nabod unrhyw un."
Dywedodd Ms Mbugua bod Bawso wedi llwyddo i gafod lle i bawb oedd angen lloches yn ystod y pandemig, ond ychwanegodd bod rhai ddim yn awyddus i fynd i loches am y byddai'n eu cymryd o'u hardal leol.
Ei phryder unwaith y bydd yr argyfwng ar ben ydy na fydd merched sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus, sydd wedi ffoi o'u cartrefi oherwydd camdriniaeth, yn gymwys am gefnogaeth.
"Pan maen nhw'n dod atom ni maen nhw wastad yn dweud yr un peth: 'Fe wnes i aros oherwydd, y munud rwy'n gwneud cwyn, fe fyddai'n cael fy anfon o'r wlad. Mae fy statws mewnfudo wedi'i gysylltu â fy ngŵr'."
Pryder am dalu ffioedd mewnfudo
Mae pryder hefyd am bobl sy'n ceisio codi arian i dalu ffioedd mewnfudo - all fod yn filoedd o bunnau - ond sydd ddim wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig.
"Fe wnes i siarad ag un fenyw - roedd hi'n gweithio mewn cartref gofal ond am ei bod yn weithiwr asiantaeth, dydy hi ddim wedi gallu gweithio," meddai Ms Mbugua.
Fe wnaeth mesur newydd ar gam-drin domestig basio'r rhwystr olaf yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun, ond doedd dim cynigion ynddo i eithrio dioddefwyr cam-drin rhag cyfreithiau mewnfudo.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae cefnogaeth i ymfudwyr sy'n dioddef camdriniaeth, gan gynnwys cefnogaeth ariannol os ydyn nhw'n gadael eu partner, ac ry'n ni'n buddsoddi £1.5m i'w helpu i sicrhau llety diogel.
"Mae llawer o gefnogaeth ar gael i'r rheiny sydd ddim â hawl i arian cyhoeddus hefyd, gan gynnwys £300m i'r llywodraethau datganoledig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020