'Dim newid cyngor ar wisgo mygydau yng Nghymru eto'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford ym Mro MorgannwgFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mark Drakeford nid yw'r cyngor ar wisgo masg yng Nghymru wedi newid

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod y "farn yn symud" yn dilyn y dystiolaeth ddiweddaraf ar gyfer defnyddio masgiau wyneb.

Ond nid yw'n credu eto ei bod yn "synhwyrol" i'w gwneud hi'n orfodol i'w gwisgo mewn rhai sefyllfaoedd.

Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Mr Drakeford mai barn prif swyddog meddygol Cymru oedd y dylid argymell gorchuddion wyneb ond nad oedd yn orfodol.

"Pan fydd pwysau'r dystiolaeth yn newid, yna byddwn yn newid ein polisi."

Arafu lledaeniad

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn galw am wneud gwisgo masgiau wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau, fel sy'n digwydd yn yr Alban.

Yn Lloegr, maent yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn ysbytai. Ond fore Sadwrn roedd awgrym bod y Prif Weiniodog, Boris Johnson, yn ystyried gorfodi pobl yn Lloegr i wisgo mwgwd gwyneb er mwyn arafu lledaeniad yr haint.

Yng Nghymru, yr argymhelliad i bobl ydy i wisgo gorchudd wyneb mewn sefyllfaoedd lle na all pobl bellhau'n gymdeithasol, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ond fel mae'n sefyll nid yw'n orfodol eu defnyddio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio'n gyson bod anfanteision o ddefnyddio masgiau, lle mae pobl yn teimlo y gallen nhw ymddwyn yn fwy peryglus wrth wisgo un.

Ffynhonnell y llun, No 10
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Boris Johnson yn gwisgo gorchydd gwyned wrth iddo ymweld â siop yn Uxbridge ddydd Gwener

Dywedodd Mr Drakeford fod prif swyddog meddygol Cymru wedi cymryd "safbwynt cytbwys iawn" ar y mater.

"O'r dechrau mae'r prif swyddog meddygol wedi bod yn awyddus i'w gwneud hi'n glir i bobl nad dadl unochrog yw hon", meddai.

"Er bod dadleuon o blaid, yn enwedig mewn cyd-destunau penodol, mae anfanteision pwysig hefyd ac mae angen i chi edrych yn gytbwys ar y risgiau a'r gwobrau."

Ychwanegodd y prif weinidog y byddai ganddo rywbeth i'w ddweud ddydd Llun ynglŷn â mesurau i ganiatáu i fwy o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel, a dywedodd bod gorchuddion wyneb "yn rhan o'r drafodaeth."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bu Mark Drakeford yn ymweld â llety hunan-arlwyo The Hide ym Mro Morgannwg

Yn y cyfamser, ar ymweliad â busnes hunan-arlwyo ym Mro Morgannwg, dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n "hollol ddiogel" i ymweld â Chymru eto ar ôl iddo amddiffyn ei benderfyniad i beidio ac ail-agor y diwydiant twristiaeth yn gynt.

O ddydd Sadwrn ymlaen mae rhai cartrefi gwyliau wedi cael ailagor am y tro cyntaf ers dechrau'r cyfnod cloi.

Ond gyda thafarndai yn dal i fethu ag agor, mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o roi swyddi mewn perygl.

Dywedodd Mark Drakeford fod dull "cam wrth gam" yn iawn i godi cloi.