Bythynnod gwyliau'n ailagor 'gyda gofal'
- Cyhoeddwyd
Bydd yr ymwelwyr cyntaf ers mis Mawrth yn cyrraedd Cymru ddydd Sadwrn, wrth i fythynnod gwyliau gael yr hawl i ailagor.
Bydd unrhyw lety gwyliau yn cael ailagor - ar wahân i lefydd lle mae pobl yn gorfod rhannu cyfleusterau, megis ystafelloedd ymolchi. Mae disgwyl i'r rheiny gael ailagor ar 25 Gorffennaf.
Mae rhai yn y diwydiant yn dweud ei fod fel goleuni ar ddiwedd y twnnel ar ol cyfnod clo oedd yn llawn heriau.
Rwan mae'r sylw'n troi at ddiogelwch wrth ailagor.
Dywedodd Rhian Parry, sydd â phump o fythynnod gwyliau ar fferm y teulu, Crugeran yn Sarn Mellteyrn, Llŷn, bod y tair wythnos diwethaf wedi bod yn hynod o brysur ers i'r llywodraeth grybwyll y gallai busnesau gwyliau ailagor.
"Dydan ni heb stopio ers tair wythnos, yn ymchwilio ac yn darllen popeth," meddai.
"Roeddan ni'n gwneud newidiadau i'n trefn arferol, ac yna'n gorfod eu newid nhw eto wrth i'r canllawiau newid.
"Mae pawb yn ei ffeindio fo'n dipyn o gur pen, ond y peth pwysicaf ar fy meddwl oedd 'sut ydan ni'n mynd i gadw pobl yn saff?"
"Wrth gwrs rydan ni isio ailagor ein busnesau - y chwe wythnos nesaf ydi'r rhai drutaf yn y calendr gwyliau, ac mi fasa colli'r rheiny yn ergyd - ond dwi fy hun yn teimlo y basa hi'n brafiach ailagor ym mis Medi. Mi fasa 'na lai o bobl o gwmpas ac mi fasa gynnon ni fwy o amser i wneud y paratoadau ac ati."
Dywedodd y bydd rhai newidiadau i'r drefn arferol yn y tai, er enghraifft dim gemau, llyfrau, DVDs, na chlustogau ar y cadeiriau, a phecyn croeso yn cynnwys wyau cartref a a photel o win yn unig.
Mae'r newidiadau yn cynnwys newid yr amser y caiff ymwelwyr gyrraedd a gadael y bythynnod hefyd, er mwyn rhoi mymryn mwy o amser i baratoi ar gyfer y cwsmeriaid nesaf.
"Mi fydd ymwelwyr yn gorfod gadael am 9 y bore, achos chawn ni ddim mynd i mewn i'r tŷ am dair awr."
'Gosod 100 o dai'
Mae'r ymateb wedi bod yn "syfrdanol" ers i'r posibilrwydd o ailagor gael ei grybwyll," meddai.
"Mi fasan ni wedi gallu gosod 100 o dai ym mis Awst, ond y drwg ydi fod pawb isio'r un wythnosau.
"Mater o gloriannu popeth ydi o. Oes, mae 'na lot o bobol leol yn poeni am niferoedd ac ati ond ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid symud ymlaen fel cymdeithas ac fel dynoliaeth.
"Ond mi fyddaf yn trio fy ngorau glas i leihau'r risg i mi a fy nheulu, i'r criw sy'n gweithio efo fi yma, ac i'r gymuned a'r ymwelwyr.
"Dwi'n gobeithio y cawn ni fwy o bobl o Gymru'n dod yma, a mwy o Gymry Cymraeg i fwynhau awyrgylch a chefn gwlad Llŷn."
Roedd Sher a Dameon Kilgour o Ddinas Powys, wedi bwcio bwthyn ger Llangrannog, Ceredigion, cyn gynted ac y clywont y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu llacio.
"Rwyf yn cael fy mhen-blwydd yn 50," meddai Sher, "ac roeddan ni wedi cynllunio i fynd i Wlad Groeg, felly roedd yn bwysig iawn i ni gael rhywle yn agos i'r môr a chefn gwlad ar ôl i ni gael ein cyfyngu i bum milltir am amser hir.
Nid oedd hi'n poeni'n ormodol am ddiogelwch.
"Mae lle'r ydan ni'n mynd yn ddiarffordd iawn, ond faswn i ddim yn poeni pe bai mewn lle poblog, cyn belled fod y mesurau iawn mewn lle."
Dywedodd Greg Stevenson o asiantaeth tai gwyliau Under The Thatch, nad oedd yn credu fod gan gwsmeriaid lawer o bryderon am ddiogelwch.
"Ychydig iawn o ymholiadau yr ydym wedi gael am ddiogelwch, ac os ydw i'n darllen y sefyllfa'n iawn, dydi pobl ddim yn or-bryderus am y mater."
Pan ofynnwyd os byddai pobl leol yn croesawu ymwelwyr dywedodd: "Dwi'n meddwl fod llawer yn ofalus iawn ar y funud, ond os gofynnwch chi iddyn nhw ymhen wythnos mi fyddan nhw'n iawn.
Mae gan asiantaeth Menai Holiday Cottages 490 o eiddo ar eu llyfrau yn Eryri, Môn a Llŷn.
Dywedodd rheolwr y cwmni Jack Matthews fod golau ar ben arall y twnnel o'r diwedd.
"Mae archebion wedi codi'n sydyn iawn," meddai.
"Mae pobl leol yn barod i ymwelwyr ddychwelyd, tra'n cadw pellter.
"Efallai bod gan leiafrif deimladau cryfion, ond mae'n rhaid pwyso a mesur pethau. Dwi'n siwr y bydd twristiaid yn parchu."
Yn y cyfamser, gyda rhagolygon o dywydd sych gydag ysbeidiau heulog, mae yna rybudd i bobl sy'n dod i Gymru i gerdded a dringo mynyddoedd i fod yn saff a chyfrifol.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Gareth Evans, sy'n arwain adain Chwilio ac Achub Heddlu Gogledd Cymru y dylai ymwelwyr â'r mynyddoedd fod yn barod i ildio i gerddwyr eraill ar lwybrau cyfyng, ac i barcio'u ceir yn ofalus fel bod cerbydau'r gwasanaethau brys yn gallu cael mynediad yn ddi-drafferth.
"Mae coronafeirws yn dal yn fygythiad. Cofiwch mai gwirfoddolwyr ydi'r timau achub mynydd, ac oherwydd Covid-19, mae'n bosib fod eu niferoedd yn llai gan bod llawer ohonynt hefyd yn weithwyr allweddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020