Ysgolion i ailagor i'r holl ddisgyblion ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarthFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd ysgolion yn ailagor yn llawn i bob disgybl o fis Medi ymlaen - dyna addewid y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ddydd Iau.

Mewn datganiad newydd, dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn ffafrio caniatáu ailagor llawn o ddiwrnod cyntaf y tymor newydd, sef Medi 1.

Ond fe fydd yna bythefnos o hyblygrwydd os yw ysgolion eisiau blaenoriaethu bod rhai blynyddoedd yn dychwelyd gyntaf, er enghraifft y rhai sydd yn dechrau yn yr ysgol uwchradd neu ym mlynyddoedd pan mae ganddynt arholiadau.

Y disgwyl yw y bydd pawb yn ôl yn yr ysgol erbyn Medi 14.

Ddydd Gwener mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wneud cyhoeddiad pellach am lacio cyfyngiadau.

Fydd disgwyl i ddisgyblion gadw pellter?

Bydd mesurau cadw pellter cyfyngedig rhwng plant a phobl ifanc sydd yn yr un grwpiau yn yr ysgol. Mae disgwyl y bydd y grwpiau yn cynnwys tua 30 o ddisgyblion - ar hyn o bryd mae'r grwpiau gryn dipyn yn llai.

Ond bydd y mesurau cadw pellter rhwng oedolion yn cyd-fynd gyda'r canllawiau fydd yn eu lle ym mis Medi.

Mae Kirsty Williams yn cydnabod y bydd cadw disgyblion rhag cymysgu ar raddfa eang yn amhosib ar adegau. Ond mae'n dweud y bydd 'na fesurau yn cael eu cyflwyno i sicrhau diogelwch pob plentyn.

Merch yn ysgol gynradd Y RhathFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai disgyblion wedi dychwelyd i'r ysgol ers dros wythnos

Ychwanegodd y dylai ysgolion barhau i warchod disgyblion a staff rhag y coronafeirws gydag asesiadau risg a mesurau i leddfu'r risg fel system un ffordd, a hylendid o safbwynt golchi dwylo.

"Dwi wedi bod yn glir trwy'r pandemig yma mai ein blaenoriaeth yw rhoi'r uchafswm o addysg i'n pobl ifanc gyda'r tarfiad lleiaf posib," meddai.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i wneud i hyn ddigwydd mewn ffordd saff a synhwyrol."

Dywedodd hefyd y byddai'r llywodraeth yn gweithio gyda'r sector gofal plant yn ystod wythnosau'r haf i gynyddu nifer y grwpiau ac "i gefnogi symudiad graddol tuag at weithredu yn llawn."

Fydd yna ddirwy os nad yw disgyblion yn mynd yn ôl?

Mae Kirsty Williams yn cydnabod bod yna "bryderon" yn dal i fodoli ymhlith rhai rhieni a gofalwyr ac oherwydd hynny fydd yna ddim cosb ariannol am beidio anfon plant i'r ysgol.

"Ond fe fyddwn ni yn disgwyl i ysgolion estyn llaw i'r rhieni hynny, gwneud hynny nawr....i drafod gyda rhieni unrhyw bryderon efallai sydd ganddynt," meddai.

Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Kirsty Williams y gall rhieni fod yn "hyderus ynglŷn ag anfon eu plant yn ôl i'r ysgol" am nad yw'n ymddangos bod y feirws yn cael ei drosglwyddo rhwng plant nac i oedolion

Er hyn dywedodd yn ystod y gynhadledd newyddion dyddiol y byddai yna "adolygiad" o'r polisi yma.

"Ar ryw bwynt efallai y bydd angen i ni ddychwelyd i'r sefyllfa cyn y Covid, lle y bydd dirwyon yn cael eu rhoi i rieni."

Presentational grey line

Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Bethan Lewis

Mae 'na bwysau cynyddol wedi bod ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau ar gyfer mis Medi gyda'r mwyafrif o ysgolion yn cau am yr haf mewn ychydig dros wythnos.

Bydd cael popeth yn ei le i groesawu pob disgybl yn ôl y tymor nesaf yn her, yn enwedig gan na fydd canllawiau manwl yn cael eu cyhoeddi gan y llywodraeth tan yr wythnos nesaf.

Roedd cael y disgyblion yn ôl i gyd yn ymddangos yn anochel ar ôl i bob rhan arall o'r Deyrnas Unedig ddweud mai dyna oedd eu nod.

Ond mae nifer o bethau ymarferol i'w datrys yn y cyfamser gan gynnwys trafnidiaeth ysgol.

A gallai unrhyw gynnydd yn y firws dros wyliau'r haf danseilio'r cynlluniau mewn rhai ardaloedd.

Presentational grey line

Mwy o staff

Yn ystod y bore cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd y byddai cyllid ar gyfer 900 o staff addysgu ychwanegol i helpu disgyblion.

Bydd y pecyn cymorth £29m yn targedu disgyblion difreintiedig a phlant sy'n sefyll arholiadau.

Wrth gyfeirio at hyn dywedodd bod hi'n bwysig peidio "lleihau ein disgwyliadau ar gyfer ein pobl ifanc, waeth beth fo eu cefndir."

"Dyna pam fod miloedd ar filoedd yn fwy o'r rhai mewn addysg yng Nghymru nawr yn cael cymhwyster TGAU gwyddoniaeth, dyma pam ein bod yn perfformio yn well na chenhedloedd eraill ar gyfer canlyniadau lefel A, a dyna pam fod miloedd yn fwy yn astudio ac yn llwyddo i lefelau uwch," meddai.

Presentational grey line

Hefyd o ddiddordeb...

Presentational grey line

Pam ailagor yn llawn?

Ers dechrau'r mis mae yna bwysau wedi bod ar y gweinidog addysg i amlinellu ei chynlluniau ar gyfer addysg ysgolion ym mis Medi.

Roedd hi wedi dweud yn y gorffennol y byddai dysgu cyfunol - cymysgedd o ddysgu gartref ac addysgu wyneb yn wyneb - yn parhau am gryn amser.

Yr wythnos hon, fe gyflwynodd dros 50 o arbenigwyr addysg ac iechyd lythyr wedi'u llofnodi gan bob un, yn gofyn am sicrhau bod pob plentyn yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn amser.

Plentyn yn gweithio o adrefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant a phobl ifanc wedi bod yn dysgu o adref am fisoedd tan yn ddiweddar

Roedd y llythyr yn dweud bod y cyfnod clo wedi bod yn "hynod niweidiol" ac y byddai dysgu cyfunol "yn debygol o waethygu'r anghydraddoldebau presennol".

Yn ogystal roedd rhai prifathrawon hefyd wedi rhybuddio y byddai yna "risg ddifrifol" na fyddai ysgolion yn gallu ailagor ym mis Medi os na fydden nhw yn gwybod beth oedd cynlluniau Llywodraeth Cymru erbyn dydd Llun.

Yr ymateb yn y byd addysg

Mae Undeb UCAC wedi dweud y bydd athrawon yn mynd ati i "groesawu disgyblion" yn ôl ym mis Medi a'u bod am weld y canllawiau fydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ailagor.

"Fodd bynnag, gyda'r canllawiau'n cael eu cyhoeddi mor hwyr yn y dydd bydd angen peth amynedd wrth baratoi ar gyfer yr ailagor yn ystod wythnosau cyntaf tymor yr hydref," meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

Ar y Post Cyntaf bore Iau cyn y cyhoeddiad y byddai ysgolion yn ailagor yn llawn dywedodd prifathro Ysgol Garth Olwg, Trystan Edwards, y byddai yn "croesawu dychwelyd yn rhannol ym mis Medi oherwydd sefydlogrwydd i ddisgyblion, rhieni ac i staff.

Dwy ferch yn yr ysgol yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood

"Mae paratoi ar gyfer yr amgylchedd ddysgu y tymor hwn wedi bod yn her.

"Byddai paratoi eto mewn cyfnod lle na fydd yr holl staff ar gael gyda'i gilydd yn ystod y gwyliau yn amlwg yn fwy o her os ydyn ni'n dychwelyd i sefyllfa ysgol lawn ar yr wythnos gyntaf ym mis Medi."

Mae undeb prifathrawon yr NAHT wedi croesawu'r penderfyniad gan ddweud bod pob arweinydd eisiau gweld pob disgybl yn dychwelyd i'r ysgol gynted ag y bo'n ddiogel i wneud hynny.

"Mae hyn yn foment arwyddocaol, ac ry'n ni'n croesawu cyhoeddi'r cyngor gwyddonol sydd wrth wraidd meddylfryd y llywodraeth," medd Paul Whiteman, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb yr NAHT.

"Ddylai neb ddi-ystyrru graddfa'r dasg o ailagor ein hysgolion yn llawn.

"Serch hynny, ry'n ni'n croesawu cyfnod o newid i sicrhau bod ysgolion yn gallu creu normalrwydd i blant a staff, a hefyd y gydnabyddiaeth bod angen canllawiau amrywiol ar gyfer ysgolion gwahanol."

Dywedodd swyddog ysgolion Cymru UNISON bod y cyhoeddiad yn rhoi "eglurder i ddisgyblion, rheini a staff ysgolion."

Ychwanegodd Rosie Lewis y bydd diogelwch y gweithlu yn yr ysgol a'r gymuned ehangach yn "dibynnu yn rhannol ar strategaeth brofi fydd yn un gadarn ac ymatebol."

"Cogyddion, glanhawyr, gofalwyr, cynorthwywyr dosbarth, staff gweinyddol, goruchwylwyr amser cinio, bydd y rhain yn ganolog i alluogi'r ysgolion i fod yn saff i ddychwelyd ac mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod," ychwanegodd.

Beth yw'r sefyllfa nawr?

Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod nifer cyfyngedig o sesiynau ar gyfer plant o bob oedran mewn ysgolion ond bydd yr ysgolion yn cau eto ymhen pythefnos ar gyfer gwyliau haf.

Dyma'r tro cyntaf i'r ysgolion ailagor ers iddyn nhw gau ym mis Mawrth o achos pandemig y coronafeirws.