'Angen 5,000 o wlâu' ar gyfer ail don bosib
- Cyhoeddwyd
Bydd angen 5,000 yn fwy o welyau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn gallu ymdopi gydag ail don bosib o'r coronafeirws, yn ôl y gweinidog iechyd.
Dywedodd Vaughan Gething fod prif weithredwr GIG Cymru wedi argymell cynllunio ar gyfer 5,000 yn rhagor o welyau.
"Ac nid hwnna yw'r rhagdybiaeth waethaf posib, ond y rhagdybiaeth fwyaf tebygol," meddai Mr Gething yn ystod cynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd y bydd modd gwneud defnydd o'r ysbytai maes sydd wedi eu sefydlu, ond fod yr union "manylion yn dal i gael eu trafod."
Yn ôl Mr Gething mae'n disgwyl gallu rhyddhau datganiad ym mis Medi gyda mwy o fanylion am drefniadau lleol ynglŷn â'r darpariaethau ychwanegol ar gyfer y gaeaf.
Dywedodd nad oedd y Llywodraeth wedi penderfynu eto pa rai o'r ysbytai'r maes fyddai'n cael eu cadw dros gyfnod y gaeaf.
"Nid ydym wedi gwneud penderfyniadau na dewisiadau terfynol ynglŷn â pha rai o ysbytai'r maes i gadw neu eu dad-gomisiynu.
Mae'r llywodraeth, meddai, yn rhoi cynllun manwl at ei gilydd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf.
Mewn ateb i gwestiwn ynglŷn â Stadiwm Principality, Caerdydd, dywedodd ei fod yn ymwybodol am bwysau eraill oedd ar y lleoliad.
Byddai'n hoffi ei weld yn "dychwelyd i normal" mor fuan â phosib, ond nad oedd yn gallu rhoi dyddiad pryd y byddai'n gallu cael ei ailddefnyddio fel adnodd chwaraeon.
Mae cynadleddau'r wasg Llywodraeth Cymru wedi newid o fod yn ddyddiol i rai unwaith yr wythnos gan ddechrau heddiw.
Wrth gyfeirio at y 5,000 o welyau ychwanegol dywedodd Mr Gething: "Ar gyfer y don gyntaf fe wnaethom bron a threblu'r capasiti ar gyfer gwelyau critigol o fewn y GIG.
"Bydd angen i ni wybod a deall a fyddwn angen gwneud hyd yn oed yn fwy, oherwydd fe fydd y cynllun ar gyfer yr hydref a'r gaeaf angen rhoi amser i'r gwasanaeth i wneud yn siŵr eu bod yn gallu addasu ar gyfer niferoedd mwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020