Talu bron £1m am eiddo ddau fis cyn gwrthod cynllun M4

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o ran o ffordd liniaru'r M4Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o ran o ffordd liniaru'r M4 o'r cynlluniau a gafodd eu gwrthod yn 2019

Fe dalodd Llywodraeth Cymru'n agos at £1m ar brynu dau eiddo fyddai wedi'u heffeithio gan gynllun arfaethedig ffordd liniaru'r M4 ddau fis yn unig cyn gwrthod y cynllun.

Ers 1995 mae dros £15m wedi ei wario dan orchmynion prynu gorfodol (GPG) yn achos 29 eiddo fyddai wedi'i heffeithio petai'r cynllun wedi'i wireddu.

Mae 14 o'r adeiladau hynny'n parhau'n wag.

Eiddo yng Nghoedcernyw, tua de orllewin Casnewydd, oedd y ddau ddiwethaf i gael eu prynu'n orfodol, a hynny ar gost o £575,000 a £400,000 yn eu tro, yn Ebrill 2019.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ar 4 Mehefin 2019 na fyddai'n ffordd yn cael ei chodi oherwydd pryderon am y gost a'i heffaith ar yr amgylchedd.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymraeg, mae'r sefyllfa'n awgrymu "proses ddi-drefn o ran gwneud penderfyniadau yng nghalon Llywodraeth Cymru".

Dywedodd llefarydd economi'r blaid, Russell George: "Mae Llywodraeth Lafur Cymru unwaith yn rhagor wedi disgwyl i drethdalwyr dalu symiau enfawr o arian ar gynllun aeth ati yn i'w wrthod yn y pen draw."

M4

Mae BBC Cymru wedi gweld ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth ble mae Llywodraeth Cymru'n dweud: "Ni allwn osod ambell eiddo i denantiaid oherwydd eu cyflwr presennol, ond ble bynnag mae'n bosib bydd yr adeiladau hyn yn cael eu huwchraddio'n safonol a'u hysbysebu ar rent yn y flwyddyn ariannol gyfredol."

O'r 29 eiddo sydd wedi'u prynu'n orfodol dros 25 mlynedd, mae saith wedi'u gwerthu gan sicrhau cyfanswm o tua £2.1m ac mae wyth wedi'u gosod i denantiaid hyd yma.

Cafodd chwech eu prynu cyn datganoli 1999.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydy prynu eiddo cyn y broses Gorchymyn Prynu Gorfodol ddim yn anarferol. Mae llawer yn asedau o werth, all eu gwerthu pan fo amodau'r farchnad yn ffafriol.

"Byddai tir ac adeiladau a gafodd eu prynu cyn datganoli wedi digwydd dan awdurdod y Swyddfa Gymreig fel rhan o Lywodraeth y DU."

Ond mae Mr George yn honni fod miliynau o bunnau mewn arian cyhoeddus "wedi eu gwastraffu, ac yn waeth byth, does dim i'w ddangos amdano."