Casgliad o eiriau Cymraeg Covid-19

  • Cyhoeddwyd
corona

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi casgliad o'r geiriau Cymraeg newydd sydd wedi cael eu creu yn ystod cyfnod coronafeirws.

Eglurodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod wedi cyhoeddi'r ddogfen fel bod y geiriau newydd sydd wedi dod yn rhan o'n hiaith bob dydd yn ystod y pandemig, ar gael mewn un lle.

Bydd pobl yn gallu chwilio am eiriau penodol yn y ddogfen Cymraeg - Saesneg, neu fel arall yn y ddogfen Saesneg - Cymraeg.

Dywedodd Carys Morgan, Swyddog Polisi Iaith y Cyngor fod y ddogfen wedi'i llunio er mwyn sicrhau bod y termau newydd hyn yn cael eu defnyddio'n gywir ac yn gyson yn y Gymraeg.

"Wrth rannu'r ddogfen yn eang, rydym yn gobeithio bydd unigolion a busnesau ar draws Ceredigion yn gwneud defnydd o'r casgliad geirfa, fel bod negeseuon allweddol at sylw'r cyhoedd yn cael eu dangos yn ddwyieithog o fewn y sir."

Rhai enghreifftiau o'r ddogfen:

  • Staff hanfodol y rheng flaen - Key frontline staff

  • Lefelu'r gromlin / Gwastatu'r gromlin - Flattening the curve

  • Llacio cyfyngiadau symud - Easing lockdown

  • Heintusrwydd - Infectiousness

Mae'r ddogfen Terminoleg COVID-19 ar gael i'w lawrlwytho o wefan y cyngor.