Tai bach yn achos pryder i reolwyr meysydd gwersylla
- Cyhoeddwyd
Wrth i feysydd carafanau a gwersylla gael ailagor yng Nghymru ddydd Sadwrn, mae nifer o berchnogion safleoedd yn dweud eu bod yn parhau'n ansicr ynglŷn â'r canllawiau.
Dywed nifer eu bod yn ansicr ynglŷn â rheolau'n ymwneud â thoiledau a chyfleusterau sy'n cael eu rhannu, ac felly bod cynllunio wedi bod yn amhosib.
Yn ôl eraill byddai'n golygu cael staff yn bresennol y tu allan i doiledau drwy'r dydd a nos.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y canllawiau ar gyfer ailagor safleoedd twristiaeth a lletygarwch yn ddiogel wedi eu diweddaru ac i'w gweld yn llawn ar-lein, dolen allanol.
Fe gafodd safleoedd hawl i ailagor yn rhannol ar 11 Gorffennaf, ond roedd hynny ar gyfer perchnogion carafanau sefydlog yn bennaf.
Ddiwedd Mehefin cafwyd rhybudd i baratoi ar gyfer ailagor ar 25 Gorffennaf ar gyfer ymwelwyr sy'n rhannu cyfleusterau fel toiledau.
Mae Parc Morfa yn Llanrhystud yng Ngheredigion wedi penderfynu derbyn carafanau symudol, ond dim ond y rhai â thoiledau a chawodydd eu hunain.
Maen nhw eisoes wedi agor ar gyfer ymwelwyr y carafanau parhaol.
"Fe fydd y bloc toiled wedi ei gau, tan i ni wybod beth yn union yw'r canllawiau," meddai Eleri Jones.
"Bydd y bloc toiledau yn aros ar gau ac wedyn bydd yn rhaid gweld be' sy'n dod.
"Ni wedi clywed am saith [maes carafanau] arall sydd ddim am agor eu blociau toiledau yn syth."
Mae gan y safle le i 150 o garafanau parhaol a thua 70 o rai symudol.
Mae Rowland Rees-Evans, sy'n berchen ar faes carafanau ger Aberystwyth, yn feirniadol o Lywodraeth Cymru gan ddweud eu bod yn eu trin fel plant bach.
Mae Mr Rees-Evans yn gyfarwyddwyr Twristiaeth Canolbarth Cymru ac yn dweud nad yw'n gwneud synnwyr fod toiledau cyhoeddus wedi ailagor, ond bod rheolau mwy llym ar gyfer carafanwyr.
"'Wi'n tynnu'n wallt ar adegau," meddai.
"Mae cyfleusterau wedi ailagor yn y trefi pwy sy'n eu rholi nhw? Ond ma' nhw'n trin ni fel plant.
"Cenhedlaeth hŷn sy' fel arfer yn y carafanau... a nhw gyd yn ymwybodol o sut i fihafio."
Ym Mhontarfynach, mae Priscilla Jones a'i gŵr Bryn wedi penderfynu peidio ag agor Parc Fferm Erwbarfe yn ehangach.
Mae ganddyn nhw le i tua 55 o garafanau sefydlog ac 20 o rai symudol.
"Ni dal yn aros i weld beth sy'n digwydd o ran sut mae pethau'n mynd gyda'r haint," meddai Mrs Jones.
"Mae mam yn 76 oed ac oedd hi â theimladau cymysg am ailagor yn y lle cyntaf."
"Ond gyda'r carafanau static ni 'nabod nhw i gyd, ni'n nabod nhw ers blynydde felly mae track and trace yn haws - ni'n gwybod eu cyfeiriad ac o ble maen nhw'n dod.
"Fydde ddim yn wir 'na mor rhwydd gyda charafanau eraill."
Ychwanegodd gyda mwy o bobl byddai mwy o waith er mwyn sicrhau bod pobl yn cadw at y rheolau.
"Peth arall yw'r toiledau, un bloc sydd gennym ni, a bydd angen ei lanhau yn llawer mwy cyson a dim ond fi a'r gŵr sydd yn gweithio yma."
Mae Eleri Davies a'i gŵr yn rhedeg Maes Carafanau Blaenwaun ar arfordir Ceredigion, ac mae hi'n deall pam fod angen canllawiau.
"Ond wedyn dwi methu deall pam fod yna reolau gwahanol ar gyfer gwahanol lefydd," meddai wrth gyfeirio at doiledau cyhoeddus.
"Dwi wedi darllen y rheolau, a byddai angen bod rhywun yn sefyll 24 awr mewn un man, gan fod y rheolau yn dweud un mewn un mas, byddai'n hunlle'.
"'Da ni wedi penderfynu bod ni methu a gwneud hynny ac felly er mwyn sicrhau diogelwch y teulu, staff y gymuned ac yn ehangach ry'n ni wedi dweud na fyddwn yn agor y blociau toiled."
Dywedodd y byddai yna groeso i garafanau sydd â thoiledau a chawodydd eu hunain.
Mae canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru o ran rheoli tai bach at ddefnydd y cyhoedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, dolen allanol yn awgrymu:
Mesurau i gyfyngu nifer y defnyddwyr ar unrhyw adeg, trwy system un i mewn ac un allan, wedi'i rheoli trwy arwyddion clir yn amlinellu'r canllaw, neu drwy drefnu staff i'w goruchwylio.
Pan fo'n bosib, cadw drysau blociau toiledau ar agor i sicrhau digon o awyr iach, galluogi defnyddwyr i weld faint o bobl sydd y tu mewn a lleihau'r angen i gyffwrdd y drysau.
Arferion glanhau a diheintio ychwanegol, yn enwedig mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd. Cyfrifoldeb perchnogion a rheolwyr yw cynnal asesiad risg a phenderfynu pa mor aml y mae angen gwneud hynny, ar sail faint o bobl sy'n debygol o ddefnyddio'r toiled.
Casglu papur sychu dwylo a gwastraff arall yn aml.
Rheoli mwy nag un ciw ar gyfer gwahanol fynedfeydd drwy osod arwyddion clir a defnyddio stiwardiaid lle bo hynny'n briodol.
Mwy o oruchwylio toiledau mwy o faint neu'r rheiny yn y llefydd mwyaf prysur, o leiaf yn ystod y cyfnod cychwynnol, i gyfyngu ar nifer y defnyddwyr ac i sicrhau eu bod yn cadw pellter cymdeithasol.
Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'r canllawiau'n "disodli'r angen i berchnogion a gweithredwyr gynnal eu hasesiadau risg na dilyn eu harferion glanhau a rheoli arferol eu hunain ar gyfer toiledau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020