Busnesau twristiaeth yn paratoi i 'ailagor yn saff'
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r sector dwristiaeth ailagor ymhellach ddydd Sadwrn - gyda llety gwyliau yn croesawu ymwelwyr eto - y neges i bobl sy'n aros yng Nghymru yw gwneud hynny'n ddiogel a rhoi ystyriaeth i gymunedau lleol.
Wrth i westai, bythynnod gwyliau a pharciau carafanau ddechrau prysuro fe fydd poblogaeth sawl rhan o Gymru yn cynyddu'n sylweddol.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi annog pobl sy'n ymweld â chefn gwlad, traethau ac ardaloedd o harddwch naturiol i wneud hynny'n ddiogel.
Yn y canolbarth mae darparwyr llety yn ceisio taro cydbwysedd gofalus rhwng ailgychwyn eu busnesau a denu pobl i mewn, tra'n amddiffyn ardal sydd wedi cael lefel isel o achosion Covid-19.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 302 o achosion wedi'u cadarnhau ym Mhowys, a dim ond 59 yng Ngheredigion.
'Diheintio'r bythynnod'
Zoe Hawkins yw Rheolwr Gweithredol Twristiaeth Canolbarth Cymru, sefydliad sydd â mwy na 600 o aelodau.
Dywed fod twristiaeth yn cyfrannu tua £1bn yn flynyddol i economi'r canolbarth ac yn cynnal 23,000 o swyddi. Felly, mae cychwyn y sector eto yn hollbwysig, meddai.
"Ry'n ni wedi bod yn brysurach nag erioed - mae llawer o ganllawiau wedi bod yn dod allan ac mae arosiadau dros nos yn ailagor o Orffennaf 11eg. Felly ry'n ni wedi bod yn helpu ein busnesau i baratoi ar gyfer hynny," meddai.
Rowland Rees-Evans yw perchennog Parc Penrhos - parc golff a gwyliau yn Llanrhystud, Ceredigion. Mae e hefyd yn Gadeirydd Twristiaeth Canolbarth Cymru.
Dywedodd bod y parc yn barod i ailagor i ymwelwyr a bod popeth posib wedi'i wneud i sicrhau bod hynny'n digwydd yn ddiogel gan gynnwys chwistrellu hylif diheintio yn y bythynnod.
Dywedodd: "Dwi'n credu ein bod ni gyd yn poeni y gallai'r feirws yma waethygu ond ni gyd yn byw yma hefyd ac yn rhan o'r cymunedau yma yng Ngheredigion.
"Ond allwn ni ddim stopio'r feirws - mae'n rhaid i ni ddechrau meddwl sut gallwn ni leihau'r risg, a'i gwneud hi'n ddiogel i bobl ddod nôl, mwynhau ac ymlacio yn y canolbarth."
Mae tua 3,000 o fusnesau twristiaeth wedi cyflawni'r dynodiad 'Barod Amdani' - dyma'r marc swyddogol yn y Deyrnas Gyfunol i nodi bod busnes twristiaeth a lletygarwch wedi gweithio'n galed i ddilyn canllawiau Covid-19 y Llywodraeth a bod yna broses ar waith i gynnal glendid a chadw pellter cymdeithasol.
Bydd Parc Fferm Erwbarfe ym Mhontarfynach yn ailagor yn rhannol ddydd Llun - dim ond perchnogion carafanau sefydlog a'r rhai symudol sy'n aros yn Erwbarfe am y tymor fydd yn cael aros yna.
Mae'r pechnogion Bryn a Priscilla Jones yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr eto - ond mae 'na nerfusrwydd hefyd.
Dywedodd Bryn Jones: "Ry'n ni'n ymwybodol iawn o'r risg o ymwelwyr yn dod mewn i Geredigion. Mae'n rhaid i ni ailagor ein busnes - ry'n ni wedi colli incwm sylweddol ar ôl bod ar gau ers dros dri mis ond wedyn mae'n rhaid taro balans rhwng ailagor ac aros yn saff.
"'Da ni wedi bod yn ffodus iawn yng Ngheredigion bod ffigyrau coronafeirws wedi bod mor isel, ac mae'n rhaid i ni gyd wneud popeth y gallwn ni i weld hynny'n parhau."
'Agor yn ormod o risg'
Ond mae rhai perchnogion busnes wedi penderfynu peidio ag ailagor.
Mae Gareth a Sian Price yn berchen ar fythynnod gwyliau hunanarlwyo Tynrhyd ym Mhontarfynach.
Gall cyfanswm o hyd at 50 o bobl aros yno mewn pedwar bwthyn ar wahân - ond am y tro ni fydd neb yn aros yn Tynrhyd gan fod Gareth a Sian wedi penderfynu aros ar gau.
"Roedd yn benderfyniad anodd iawn," meddai Gareth. "Ry'n ni wedi penderfynu aros ar gau oherwydd yn bennaf yr hyn ry'n ni'n gweld ar draws y Deyrnas Unedig bod ail don o'r feirws yn dechrau mewn ardaloedd penodol.
"Ar ôl siarad gyda'r staff a nhw'n teimlo'n anghysurus a siarad gyda'r ardal leol, ro'n ni'n meddwl yn y pen draw meddwl bod ailagor yn bach gormod o risg."
Dywed Zoe Hawkins o Dwristiaeth Canolbarth Cymru nad yw nifer o fusnesau eraill yn bwriadu agor y penwythnos hwn chwaith.
Ond ychwanega y bydd croesawu twristiaid yn ôl yn hwb i lawer o fusnesau bach teuluol.
"Mae tua 95% o'r busnesau twristiaeth yn y canolbarth yn fusnesau meicro annibynnol. Teuluoedd a chymunedau yw'r rhain sy'n dibynnu'n llwyr ar y sector dwristiaeth - pobl yn dod i mewn i'r ardal, yn gwario yn ein siopau lleol, yn ymweld ag atyniadau ac yn aros mewn llety lleol.
Felly mae'n hanfodol ein bod ni'n cael y twristiaid yn ôl mor ddiogel ag y gallwn."
'Angen bod yn gyfrifol'
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae pobl ledled Cymru wedi gwneud cymaint dros y misoedd diwethaf i ddilyn y rheolau a helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws - rwy'n diolch iddyn nhw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth ac rwy'n gofyn iddyn nhw barhau yn yr ysbryd hwn.
"Dyw'r coronafeirws ddim wedi diflannu ac, er bod y dystiolaeth yn dangos bod y risg yn yr awyr agored yn is, mae risg o hyd.
"Felly mae angen i ni barhau i ymddwyn yn gyfrifol.
"Byddwch yn garedig i drigolion lleol ac at gyd-ymwelwyr trwy barcio'n ystyriol, gan adael dim ar ôl a dilyn y Cod Cefn Gwlad a ddiwygiwyd yn ddiweddar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020