'Dylai mygydau fod yn orfodol mewn ysbytai'
- Cyhoeddwyd
![Staff Ysbyty Maelor Wrecsam yn gwisg mygydau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EE10/production/_113644906_gettyimages-1224882679.jpg)
Rhai o staff Ysbyty Maelor Wrecsam yn gwisgo mygydau
Mae rhai o aelodau Llafur Senedd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld ag ysbytai.
Daw sylwadau Lynne Neagle, AS Torfaen, ar ôl iddi glywed fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn annog pobl a'r holl staff i wisgo mygydau.
"Mae hyn wedi gwneud fi'n flin iawn," meddai mewn trydariad.
"Dylai ysbytai ddim bod mewn sefyllfa o orfod gofyn nac annog.
"Dylai hyn fod yn orfodol mewn ysbytai yng Nghymru."
Mae ei sylwadau wedi derbyn cefnogaeth Alun Davies AS Llafur Blaenau Gwent a David Rees, AS Llafur Aberafan.
![Gorsaf](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11AF3/production/_113353427_waverley_getty.jpg)
Ddydd Llun fe ddaeth yn orfodol i bobl 11 oed a hŷn yng Nghymru wisgo gorchudd wyneb wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae yna gyngor hefyd i bobl eu gwisgo nhw mewn sefyllfaoedd lle nad oes modd ymbellhau yn gymdeithasol.
Ond dywedodd AS Dwyrain Abertawe Mike Hedges ei fod yn hapus nad oedd y polisi presennol yn golygu gorfodaeth o ran ysbytai a siopau.
Dywedodd na all rhai pobl - oherwydd rhesymau iechyd - wisgo mygydau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020