Bachgen, 15, yn cyfaddef gwerthu cyffur i Carson Price
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gyflenwi'r cyffur ecstasi i fachgen 13 oed o Sir Caerffili a fu farw'n ddiweddarach.
Cafwyd hyd i Carson Price, o Hengoed, yn anymwybodol ym Mharc Ystrad Mynach ar 12 Ebrill y llynedd, a bu farw'r un diwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Bydd y diffynnydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys Ieuenctid Cwmbrân ar 18 Awst ar ôl pledio'n euog i gyflenwi cyffur Dosbarth A yn llys ynadon y dref.
Clywodd y gwrandawiad fod cyfaill Carson wedi dweud wrth yr heddlu ddiwrnod y farwolaeth fod Carson wedi cysylltu â gwryw trwy ap Snapchat a threfnu i brynu tabledi.
Aeth i gwrdd â'r person hwn mewn garej lleol gan ddychwelyd 10 munud yn ddiweddarach.
Newid stori
Dywedodd Margaret Cunningham ar ran Gwasanaeth Erlyn Y Goron wrth y llys fod Carson wedi cymryd tabled a hanner yn y lle cyntaf, a'r un nifer yn ddiweddarach. Wedi hynny fe wnaeth "ddechrau ymddwyn yn rhyfedd".
Clywodd y llys fod y diffynnydd, na ellir cyhoeddi'i enw, wedi cyfaddef mewn cyfweliad gyda'r heddlu ei fod wedi gwerthu'r cyffuriau i Carson, ond ei fod wedi gwneud hynny ar ran dyn yr oedd yn ei ofni.
Ychwanegodd Ms Cunningham: "Ond ar ddiwedd y cyfweliad, fe newidiodd ei stori eto a dweud nad oedd y dyn yma'n ymwneud â'r achos, ac fe roddodd enw dyn arall oedd wedi gwerthu'r tabledi iddo."
Roedd negeseuon testun hefyd wedi amlygu tystiolaeth fod y diffynnydd wedi parhau i geisio cael gafael ar gyffuriau i'w gwerthu ymlaen yn y dyddiau wedi marwolaeth Carson Price.
Daeth crwner i'r casgliad fod Carson wedi cymryd gormod o MDMA neu ecstasi ac wedi dioddef "ymateb enbyd" i'r cyffur.
'Syfrdanol'
Mae'r Barnwr Rhanbarthol Martin Brown wedi gofyn am adroddiad cyn dedfrydu'r diffynnydd, oedd yn 14 oed adeg y drosedd.
Dywedodd fod hi'n "sefyllfa syfrdanol" i lanc mor ifanc fod yn gwerthu cyffuriau Dosbarth A.
"Ni fydd hyn yn rhywbeth y bydd y teulu'n dod drosto'n hawdd, os fyth," meddai wrth y bachgen.
"Rwyf angen gwybod mwy amdanoch chi. Rwyf angen gwybod mwy am eich ymateb i hyn. Yr hyn rwyf angen gwybod yw os rydych chi wedi dysgu o'r profiad hwn.
"Mae'n destun pryder. Hyd yn oed wedi i'r sefyllfa yma ddifrifoli, mae'n ymddangos eich bod yn dal yn ceisio cael tabledi i'w gwerthu."
Dywedodd mam Carson, Tatum Price wedi'r gwrandawiad: "Rwy'n falch fod yna ble 'euog' oherwydd rwy'n teimlo ei fod yn derbyn beth mae e wedi gwneud.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd yn adlewyrchu nad yw'n dderbyniol i werthu cyffuriau, a hefyd yn adlewyrchu peryglon Snapchat yn gwneud hi'n rhy hawdd i werthu cyffuriau."
Mae dyn 22 oed o Gaerffili a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau a'i ryddhau yn dal yn destun ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2019