Datblygwyr morlyn Bae Abertawe 'heb ganiatâd mwyach'
- Cyhoeddwyd
Does gan ddatblygwr morlyn Bae Abertawe ddim caniatâd cynllunio mwyach i'w godi, medd Llywodraeth y DU.
Mae Tidal Power PLC yn honni eu bod â hawl "am byth" o ran y cynllun yn sgil gwaith maen nhw wedi'u gwblhau ar y safle.
Serch hynny, mae gweinidogion y DU a Chyngor Abertawe yn mynnu fod y caniatâd wedi dod i ben ddiwedd Mehefin.
Dywedodd Cyngor Abertawe na all yr un rhan o'r cynllun fynd yn ei flaen nawr.
Cafodd y cynllun £1.3bn ei wrthod yn 2018 pan ddaeth gweinidogion San Steffan i'r casgliad na fyddai'n rhoi gwerth am arian.
'Cynllun dadgomisiynu'n hwyr'
Yn sgil colli cefnogaeth Llywodraeth y DU, sefydlwyd cwmni Tidal Power dan arweiniad y prif weithredwr, Mark Shorrock, gan geisio sicrhau buddsoddiad o £1.2m trwy werthu cyfranddaliadau yn 2019.
Nod yr arian hwnnw, medd gwefan y cwmni, oedd "gwarchod prosiect Abertawe".
Er mwyn gwneud hynny, dywed y cwmni fod gwaith wedi dechrau ar y safle ar 29 Mehefin eleni cyn i'r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (GCD) - caniatâd cynllunio'r prosiect - ddod i ben ar 30 Mehefin.
Roedd y gwaith, rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf, yn cynnwys dymchwel wal a chlirio'r safle, yn ôl cynrychiolydd Mr Shorrock.
Ond mae llythyr gan y Gweinidog Busnes, Kwasi Kwarteng i'r datblygwyr yn datgan yn glir fod Llywodraeth y DU o'r farn fod y GCD ar ben, er honiad y datblygwyr fod y gwaith yn sicrhau caniatâd cynllunio am byth i Forlyn Bae Abertawe.
Cyn dechrau ar unrhyw waith, roedd Llywodraeth y DU angen cynllun yn dangos sut fyddai'r cynllun yn cael ei ddatgymalu, neu'i ddadgomisiynu.
Ysgrifennodd Mr Kwarteng fod y datblygwyr ond wedi cyflwyno'r cynllun hwnnw ym mis Mai - deufis cyn i'r caniatâd ddarfod.
Dywed yn y llythyr: "Gan fod y rhaglen [ddadgomisiynu] wedi'i chyflwyno mor agos at ddyddiad terfyn y GCD, a ddim mewn cyflwr addas i argymell cymeradwyo yn dilyn asesiad, daeth y GCD i ben."
'Anghyfreithlon'
Dywedodd Cyngor Abertawe ym Mehefin fod y gwaith yn "anghyfreithlon" gan nad oedd yn cydymffurfio â "gofynion y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu, sy'n gofyn am gydsyniad cyn dechrau datblygu".
Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor, mae'r awdurdod "yn parhau i gael cyngor cyfreithiol annibynnol ar y mater hwn".
Ychwanegodd eu bod wedi "ysgrifennu at Tidal Power PLC ar 8 Gorffennaf i gadarnhau fod y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu wedi darfod oherwydd roedd y cwmni wedi methu cwrdd â'r gofynion arno o fewn yr amserlen pum mlynedd yn y GCD.
"Gan fod y GCD wedi llithro, ni all yr un rhan o'r datblygiad oedd wedi'i awdurdodi'n flaenorol fynd yn ei flaen yn absenoldeb gorchymyn pellach neu ganiatâd arall.
"Mae'r cyngor yn monitro'r sefyllfa ar y safle a bydd yn gweithredu'n briodol pe bai angen."
Dan ddeddfwriaeth newydd yn 2017, byddai'n rhaid sicrhau unrhyw orchymyn pellach i ddatblygu'r cynllun gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw wedi derbyn cais i ymestyn gan Tidal Lagoon Power cyn dyddiad terfyn y GCD ar 30 Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Byddwn yn parhau i archwilio i dechnolegau morol sy'n defnyddio ynni naturiol ein llanw a gwynt ar y môr, ond mae'n rhaid i unrhyw brosiect arfaethedig roi gwerth am arian i'r defnyddiwr.
"Yn dilyn dadansoddiad helaeth, nid oedd prosiect Morlyn Bae Abertawe yn cwrdd â'r meini prawf hynny, gan na fyddai wedi sicrhau dêl dda i ddefnyddwyr.
"Fodd bynnag, byddwn yn parhau i archwilio prosiectau mwy cost effeithiol i greu swyddi gwyrdd a sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018