Dioddefwyr hiliaeth ddim yn 'siarad allan digon'
- Cyhoeddwyd
Mae hiliaeth yn dal i fodoli yng Nghymru a dyw dioddefwyr ddim yn siarad digon am eu profiadau medd Llywydd y dydd gŵyl AmGen.
Yn ôl Toda Ogunbanwo, sy'n 20 oed ac yn byw ym Mhenygroes, Gwynedd dyw rhai "ddim yn cofio, neu heb sylwi" bod eu gweithredoedd neu eu geiriau yn hiliol.
Mae o wedi profi hiliaeth ei hun yn yr ysgol meddai yn ei araith fore Gwener.
"Pethau mor fach â neb yn gadael fi chwara' gemau football efo nhw, a pethau mor fawr â chael fy ngalw yn N***** gan fyfyriwr chwe mlynedd yn hŷn na fi.
"Dwi wedi cael plant yn poeri yn fy nŵr heb i mi wybod, dwi wedi cael plant yn llechio yogurt arna fi - a hynny heb fawr o ymateb gan yr athrawon.
"Ma' cwffio a sefyll i fyny dros dy hun yn mynd yn anoddach pan wyt ti yn un person gwahanol mewn 500.
Dyw hi ddim yn wir i ddweud bod profiadau fel hyn ddim yn digwydd yng Nghymru meddai.
Ond am nad ydy'r rhai sydd wedi profi'r peth yn siarad dyna yw'r argraff sy'n cael ei roi meddai Toda, wnaeth symud i Benygroes o Harlow yn Essex pan oedd yn saith oed.
"Mae'n hawdd dweud bod y petha yma ddim yn bodoli yng Nghymru. Ond y rheswm am hynny yw dydi dioddefwyr hiliaeth ddim yn siarad allan ddigon."
Ychydig wythnosau yn ôl roedd y teulu yn y penawdau newyddion ar ôl i graffiti swastika gael ei beintio ar ddrws garej eu tŷ. Mae'n dweud iddo sylweddoli wedi'r weithred symbolaeth y peth.
"Ma' swastika yn symbol casineb ar draws y byd, ac yn anghyfreithlon yn ngwledydd fel yr Almaen, Ffrainc a Gwlad Pwyl. 'Dan ni gyd yn deall beth mae o'n cynyrchioli.
"Dw i wedi dadsensiteiddio i bethau fel hyn, ac mae hynny'n drist. Ond mae'n anhygoel o drist bod rhywun yn 2020 yn teimlo ddigon cyfforddus i wneud hyn o gwbl.
"Anaml iawn dw i'n labelu pethau yn hiliol ond dydi o ddim yn gyd-digwyddiad 'na ni ydi'r unig deulu du yn hanes Penygroes, a ni ydi'r unig deulu efo swastika ar ein garej ni.
Dysgu yn yr ysgol
Yn ôl Toda, sydd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain, addysg yw'r man cychwyn a dysgu am hanes ein gwlad, y da a'r drwg.
Ymhlith ei enghreifftiau am gaethwasiaeth mae Castell Penrhyn ac Ystâd Pennant.
"Mae canran fawr o boblogaeth Cymru a Phrydain yn teimlo fel bod nhw yn cael esgusodi eu hunain o'r hanes yma achos doedd yna ddim llawer o gaethweision ar dir Prydain yn gorfforol," meddai yn ei araith.
Ond pe byddai plant yn cael gwybod am hanes pobl ddu, gan gynnwys y rhai sydd wedi gwneud campau fel Colin Jackson ac Abdulrahim Abby Farah, mae'n hyderus y byddant yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio iaith hiliol.
Croeso i bawb
"Rwy'n credu os bydd pobl yn dysgu am ddiwylliannau a hanesion gwahanol i'w rhai eu hunain, fel y gwnes i am Gymru, mi fydd yn rhoi sylfaen llawer iachach i ni uno o'i amgylch.
"Nid er mwyn i ni gyd fod yr un peth, ond er mwyn gwybod am wahaniaethau pobl a derbyn a dathlu ein gilydd o'u herwydd nhw, gan ddechrau gyda rhywbeth mor fach â gwên.
"Hoffwn i weld y diwrnod lle geith unrhyw leiafrif symud i ogledd Cymru a theimlo y ca'n nhw groeso a chefnogaeth yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2020