BAME: Angen taclo ‘anghyfartaledd’ ym maes iechyd

  • Cyhoeddwyd
Josh NadimiFfynhonnell y llun, Josh Nadimi
Disgrifiad o’r llun,

Daw Josh Nadimi o Lantrisant

Rhaid mynd i'r afael â'r "anghyfartaledd iechyd" sydd yn effeithio ar bobl o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig yn ôl Llywydd y Dydd yng ngŵyl AmGen, Josh Nadimi.

Mae ffigyrau marwolaethau gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol wedi dangos bod mwy o bobl o gefndir BAME wedi marw gyda'r coronafeirws na phobl wyn.

Ac er bod rhai ffactorau yn esbonio'r gwahaniaeth dyw'r rhain ddim yn rhoi'r darlun cyfan meddai Josh Nadimi sy'n llawfeddyg yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

"Mae'r rhesymau dros hyn yn gallu cael eu hesbonio'n rhannol gan ffactorau socio-economegol a daearyddol, ond dyw hynny ddim yn esbonio yn hollol maint y gwahaniaeth.

"Mae rhan o'r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp yn gyfan gwbl anesboniadwy."

Mae angen taclo'r anghyfartaledd a chydnabod ei fod yn bodoli, meddai.

Fel un sydd wedi bod yn gweithio yn ystod yr argyfwng mae'r llawfeddyg hefyd siarad am ba mor anodd mae wedi bod i weithwyr iechyd.

"Mae arolwg diweddar wedi dangos bod 44% o ddoctoriaid yr NHS yn dioddef oherwydd eu bod o dan straen, yn dioddef o gorbryder neu yn wynebu'r risg o losgi allan yn sgil y pwysau trwm maen nhw wedi ei wynebu fel gofalwyr iechyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r feirws wedi effeithio yn emosiynol ar weithwyr iechyd

Mae nifer o ddoctoriaid wedi bod yn gorfod gweithio am gyfnodau i ffwrdd o'u teulu ac wedi bod yn cymryd risg, meddai.

"Roedd hyn yn enwedig yn wir pan roedd nifer fawr ohonynt yn ansicr a fyddai ganddynt gyfarpar diogelu personol, neu PPE, er mwyn gofalu am y cleifion."

I'r llawfeddyg mae hi wedi bod yn deimlad o falchder gallu gweithio i'r gwasanaeth iechyd.

"I arbenigwyr sydd dan hyfforddiant fel fi, mae'r pandemig wedi arwain at oedi yn ein datblygiad proffesiynol er mwyn sicrhau ein bod ni yn gallu helpu yn ystod yr argyfwng.

"Yn naturiol, nid oeddwn wedi rhagweld hyn, ond dwi'n ddiolchgar fy mod i'n dal yn gallu gweithio yn y gwasanaeth iechyd tra bo gymaint o bobl eraill yn wynebu cael eu diswyddo,"meddai.

"Mae hi wedi bod yn fraint yn ogystal, ac yn gyfrifoldeb i helpu eraill yn ystod y pandemig hwn, ac mi wn fod nifer fawr o ddoctoriaid eraill yn teimlo yr un peth," ychwanegodd.

Dathlu amrywiaeth

Fel Cymro sydd yn dod o gefndir cymysg o ran hil a theulu aml-ddiwylliannol mae Josh, sy'n 28 oed yn falch o'i wreiddiau ac yn teimlo bod hi'n bwysig dathlu'r amrywiaethau sy'n bodoli yng Nghymru.

"Roedd hi'n ddiddorol iawn i weld, yn ystod y cyfnod pan oedd fy chwaer yn mynd trwy'r ysgol gynradd, faint o amrywiaeth oedd ymhlith y plant sydd bellach yn mynychu ysgolion Cymraeg, o safbwynt cefndir a hil."

"Mae hyn yn profi nad oes yna un fath o Gymro neu Gymraes rhagor ac rydw i, fel Cymro aml-ddiwylliannol ac o deulu cymysg, yn falch iawn ein bod ein cymuned ni yn datblygu ac yn cael ei chyfoethogi fel hyn."