Dewis atomfa Trawsfynydd i gael ei datgomisiynu'n llwyr

  • Cyhoeddwyd
Safle atomfa niwclear TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Magnox

Mae Llywodraeth y DU wedi dewis gorsaf niwclear Trawsfynydd fel y safle i arwain prosiect datgomisiynu adweithyddion Magnox yn y DU.

Bydd hynny'n golygu bod yr adeiladau ar safle'r hen atomfa yng Ngwynedd yn cael eu dymchwel yn llwyr.

Dywedodd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (ADN) y byddai'r gwaith hwnnw'n creu swyddi ac yn dangos y ffordd ar gyfer clirio safleoedd niwclear eraill ym Mhrydain.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn "newyddion gwych" i'r ardal.

Rhywfaint o wastraff dal yno

Cafodd atomfa niwclear Trawsfynydd ei hagor yn 1958 ac roedd hi'n cynhyrchu trydan nes 1991.

Mae wedi bod yn cael ei datgomisiynu ers hynny, ond mae trafod hefyd wedi bod yn ddiweddar ynglŷn â chodi adweithyddion bychan newydd yno.

Mae'n un o 10 cyn-orsaf niwclear Magnox yn y DU sydd bellach ddim yn cynhyrchu trydan mwyach - yr olaf o'r rheiny oedd Wylfa ar Ynys Môn yn 2015.

Bydd y prosiect newydd yn golygu dymchwel yr adeiladau sy'n weddill, ac adeiladu storfa newydd i gadw'r gwastraff ymbelydrol lefel isel ar y safle.

Dywedodd Magnox bod disgwyl i tua 50,000 metr ciwbig o wastraff lefel isel fod yno, a hynny hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn canfod safle parhaol i gadw gwastraff niwclear y wlad.

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd yr ADN eu bod wedi gwneud "penderfyniad strategol" i ddynodi Trawsfynydd fel y safle cyntaf ar gyfer y prosiect datgomisiynu.

"Bydd hyn yn sicrhau swyddi yn yr ardal am y ddau ddegawd nesaf a gallai arwain at ragor o gyfleoedd i bobl leol," meddai.

"Bydd y sgiliau newydd a'r dysgu sy'n digwydd o'r rhaglen ddiwygiedig yn Nhrawsfynydd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r gwaith datgomisiynu a lleihau perygl ar draws safleoedd Magnox a'r grŵp ADN cyfan - gan rannu arferion gorau a darparu gwerth ar gyfer trethdalwyr y DU."

'Dyletswydd i glirio'

Mewn ymateb dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fod y cyhoeddiad yn "newyddion da i'r rhanbarth".

"Mae ganddo'r potensial i ddiogelu swyddi presennol am gyfnod hwy a bydd yn cadarnhau Trawsfynydd fel canolfan ragoriaeth yn y maes," meddai.

"Byddwn yn aros yn awr am ragor o fanylion a'r achos busnes, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phob parti ar y prosiect cyffrous hwn."

Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, y byddai'r swyddi fydd yn cael eu creu drwy'r gwaith yn hwb mawr i'r ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi croesawu'r cyhoeddiad

"Deallaf fod posib i nifer y swyddi ar y safle gynyddu i tua 250 erbyn 2021," meddai. "Dylid troi pob carreg i sicrhau fod pobl leol yn parhau i elwa o'r cyfleoedd hyn.

"Ar hyn o bryd mae 97% o'r gweithlu yn byw yng ngogledd Cymru ac mae 85% o weithwyr Pwerdy Trawsfynydd yn siaradwyr Cymraeg."

Ychwanegodd bod "dyletswydd ar ein sector niwclear... i gymryd cyfrifoldeb am glirio safleoedd".

"Yn hyn o beth, bydd y gwaith a wneir yma yn arwain y sector cyfan, ac yn agor cyfleoedd i genhedlaeth newydd o beirianwyr."