'Fe wnaeth ennill y Rhuban Glas agor drysau'
- Cyhoeddwyd
Mae'n hanner can mlynedd ers i Dai Jones, Llanilar ganu ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a chipio'r Rhuban Glas. Dywed fod yr anrhydedd wedi agor cymaint o ddrysau eraill iddo mewn bywyd a'i fod yn brofiad y bydd yn ei drysori am byth.
Dim ond 26 oed oedd Dai ar y pryd ac mae ef a Stuart Burrows ymhlith yr ieuengaf i ennill y wobr.
Mae Dai Jones ar hyn o bryd yn cael gofal yn Ysbyty Tregaron ac er bod y cof yn pylu ar adegau, mae'n cofio'n dda am y dydd Sadwrn hwnnw yn Awst 1970.
"Roedden ni wedi ennill yr unawd tenor ddydd Gwener, mynd adre amser cinio a mynd lawr wedyn ddydd Sadwrn ar ôl godro i gystadlu am y Rhuban Glas," meddai.
Y Diethryn ac Aria Lesnki allan o Eugene Oengin oedd darnau Dai ar gyfer yr unawd tenor a'r Adelaide gan Beethoven oedd un o'i ddarnau dewisol ar gyfer y Rhuban Glas.
"Dwi wrth fy modd gydag Adelaide," meddai yn llawn emosiwn, "a 'nai fyth ei hanghofio.
"Ond cofiwch er bo fi'n gallu canu, dwi ddim yn gerddor o gwbl - dwi ddim yn gallu darllen cerddoriaeth ond mae gen i glust dda ac mae geiriau caneuon yn bwysig iawn i fi.
"Pan ro'n yn cael gwersi - o nhw'n arfer gweud wrthai pan o'dd ff ar y copi - Dai mae'n rhaid i ti agor ma's nawr!"
'Fy ngeni yn Gocni'
Yn Llundain y ganwyd Dai Jones ond fe symudodd i Gymru yn blentyn at berthnasau iddo yn Llangwyryfon.
"Roedd gan fy rhieni, y ddau yn enedigol o Sir Aberteifi, wâc laeth yn ardal Holloway - roedd y ddau yn codi am 4.30 ac roedd siop 'da nhw hefyd oedd yn agor am saith y bore tan saith yr hwyr.
"Ond do'n i ddim yn lico prysurdeb Llundain ac roeddwn wrth fy modd yn dod ar wyliau i'r wlad at Wncwl Morgan ac Anti Hannah ac un gwyliau es i ddim nôl - er bod fy rhieni yn Llundain.
"Mynd ar wyliau adre roeddwn i wedyn - ond yn dyheu o hyd i ddod nôl i Geredigion. O'ch chi ffili gweld coeden o'r gwely yn Holloway!"
Yn ei ugeiniau y dechreuodd Dai Jones ganu o ddifri - roedd e'n canu ychydig yn yr ysgol gynradd ac yn cael gwersi ffidil ond mae'n dweud nad oedd hi'n "cŵl" iawn i fynd â ffidil na bag i'r ysgol ac roedd e'n dueddol o'u gadael nhw yn y clawdd.
"Roedd fy nhad yn dipyn o ganwr," meddai. "Yn eisteddfod Tyn-y-graig ger Swyddffynnon yr enillais i gynta ac yna wedi i fi gael car fe es i gystadlu ar draws Cymru a chael gwersi canu.
"Fues i hefyd yn ffodus i gael fy newis i gymryd rhan yn rhaglen Sêr y Siroedd - fi oedd yn canu ar ran Sir Aberteifi ac un oedd yn fy erbyn yn gyson oedd y gantores Margaret Williams, o Sir Fôn.
"Ymhlith fy athrawon yr oedd Colin Jones o'r Rhos ac arferwn fynd ato bob bore Sul - gadael Berth-lwyd yn y bore wedi godro, cael gwers ac yna cael cinio dydd Sul gyda rhieni Colin cyn dod nôl."
Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1966 fe gafodd Dai Jones lwyfan ar yr unawd dan 25 ond 1970 oedd y flwyddyn fawr wrth iddo ennill yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, Eisteddfod Môn, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman.
"Wedi i fi ennill yn Llangollen daeth dau o'r beirniaid draw i Lanilar a gofyn i fynd fynd yn ôl gyda nhw i'r Eidal i ddysgu bod yn ganwr proffesiynol ond gwrthod wnes i - do'dd 'da fi ddim diddordeb mewn gyrfa felly."
Llanilar yn falŵns i gyd
"Yn Sioe Llanilar roeddwn i pan glywais i bod Dai wedi ennill yr unawd tenor - doedd hi ddim yn bosib i fi fynd 'dag e gan bod lot o waith i'w wneud adre ar y fferm," meddai Olwen, gwraig Dai.
"Wedi iddo ennill ro'dd Llanilar yn falŵns i gyd - pawb yn falch iawn," ychwanegodd.
"Perfformiad oedd cystadleuaeth y Rhuban Glas i fi. Doeddwn i ddim yn poeni am ennill dim ond bod y perfformiad yn un da. Doeddwn i ddim yn nerfus o gwbl - dwi lot fwy nerfus pan dwi'n rhedeg ci defaid mewn treialon," meddai Dai.
Mae Dai yn argyhoeddedig bod ei lwyddiannau eisteddfodol wedi agor y drws i nifer o gyfleon eraill. Yn fuan wedyn daeth cyfle i gyflwyno y gyfres Siôn a Siân ac fe roddodd Dai ei stamp ei hun ar y gyfres drwy ganu ar ddiwedd pob rhaglen.
"Mi Glywaf Dyner Lais, oedd y ffefryn," meddai, "a 'nes i fwynhau yn fawr cyfarfod â phobl. Roedd e'n gam naturiol wedyn i gyflwyno rhaglenni fel Cefn Gwlad a dwi hefyd wedi mwynhau cyflwyno Rasus a darlledu o'r Sioe Fawr a chyflwyno Ar Eich Cais, wrth gwrs, ar Radio Cymru.
"Dwi wedi bod yn ffodus iawn gydol fy mywyd - wedi cael teithio llawer yn sgil fy ngwaith canu a chyflwyno ond roedd hi wastad yn braf dod adre. Dyn cartre ydw i."
Fe ddaeth nifer o anrhydeddau eraill wedi'r rhai cynharaf yn 1970 gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol, yr MBE ac ef hefyd oedd Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2010 pan oedd Sir Ceredigion yn ei noddi.
Mae e hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn treialon cŵn defaid rhyngwladol ac yn 2004 enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru.
"Canu mewn eisteddfodau, mae'n debyg, a agorodd y drysau - a dyna lwc bo fi ddim wedi mynd yn ôl i Lundain yn y pedwardegau," meddai.