Dim gobaith i fachgen 13 oed oroesi damwain beic modur

  • Cyhoeddwyd
Cory HewerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Cory Hewer ar ol digyn oddi ar ei feic modur ar dir fferm

Clywodd cwest fod bachgen 13 a fu farw mewn damwain beic modur wedi dioddef anaf difrifol i'w ymennydd, ac nad oedd gobaith ei oroesi.

Cafodd y cwest i farwolaeth Cory David Keith Hewer ei agor ddydd Gwener yn Llys Crwner Casnewydd. 

Dywedodd swyddog y llys, Paul Richardson, fod y bachgen wedi bod yn reidio beic modur motocross ar dir fferm ger Cwm yn ymyl Glyn Ebwy ar ddydd Sul 19 Gorffennaf, pan ddisgynodd oddi arno.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle bu farw ar ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.

Clywodd y cwest nad oedd neb arall yn rhan o'r ddamwain, ac felly gallai'r teulu gynnal angladd y bachgen.

Gohiriodd Crwner Gwent, Caroline Saunders, y cwest llawn tan 5 Awst 2021.