'Fe allai gwasanaethau angladd fod wedi'u llethu'
- Cyhoeddwyd
Roedd nifer yr amlosgiadau yng Nghymru yn agos at dreblu yn anterth y pandemig coronafeirws.
Fe wnaeth Cyngor Caerdydd gynyddu yr uchafswm posib i 30 o amlosgiadau y diwrnod am dair wythnos ym mis Mai - deirgwaith y cyfartaledd arferol - a chyrraedd 87% y capasiti hwnnw.
Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan y gallai gwasanaethau amlosgi a chladdu fod "wedi'u llethu" dan yr amgylchiadau gwaethaf posib.
Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o'r cynghorau na fu'n rhaid gweithredu mesurau wrth gefn.
'Dan bwysau'
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod gwasanaethau profedigaeth "dan bwysau" ond "nid oedden nhw erioed yn agos at fod wedi'u gorlethu".
Fe symudodd y cyngor 32 aelod staff o adrannau eraill er mwyn gallu cynnal rhagor o amlosgiadau - hyd at 20 y diwrnod yn y lle cyntaf, cyn cynyddu'r nifer i 30 y diwrnod dros dair wythnos ym mis Mai.
Yn ystod y tair wythnos hynny, roedd y gwasanaeth hyd at 87% yn llawn, sy'n gyfystyr â 26 o amlosgiadau mewn diwrnod.
Mae'r cyngor yn trefnu 50 o amlosgiadau'r wythnos ar gyfartaledd fel arfer - 10 ar gyfartaledd y diwrnod, er bod y nifer yn gallu amrywio o ddydd i ddydd.
Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn agos ar "argyfwng gwirioneddol" yn ôl yr arweinydd, Andrew Morgan, ac roedd dadansoddiadau cychwynnol yn rhagweld y byddai gwasanaethau amlosgi, claddu a marwdy'n cael eu "gorlethu'n sylweddol".
Yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol, dywedodd Mr Morgan yn ystod cyfarfod pwyllgor craffu'r cyngor: "Dydw i ddim yn meddwl fod llawer [o gynghorwyr ac aelodau'r cyhoedd] yn gwybod yn union pa mor agos ddaeth pethau at fod yn argyfwng gwirioneddol.
"Byddai'r potensial, dan y senario gwaethaf, wedi gweld galw sawl canwaith capasiti ein gwasanaethau marwdy a chladdu."
Y darlun yng ngweddill Cymru
Fe gyflwynodd cynghorau ledled Cymru fesurau ychwanegol i sicrhau nad oedd gwasanaethau profedigaeth yn cael eu gorlethu yn ystod y pandemig.
Cysylltodd BBC Cymru â'r 22 awdurdod lleol gan ofyn am y pwysau ar wasanaethau amlosgi a chladdu ers mis Mawrth.
Roedd Cyngor Sir Penfro ymhlith y rhai a atebodd, gan ddweud ei fod wedi dyblu nifer y gwasanaethau amlosgi wythnosol o 50 i 100, gyda chynlluniau i gynnig dros 200 yr wythnos pe bai angen.
Torrodd y cyngor feddi ychwanegol a threfnu i allu storio cyrff, er na gododd angen am hynny.
Ym Mhowys does dim amlosgfa, a doedd dim effaith ar wasanaethau claddu. Ond roedd y cyngor wedi "cynllunio ar gyfer y senario gwaethaf" a threfnu marwdy dros dro yn Llanelwedd, na chafodd ei ddefnyddio.
Yn Wrecsam, fe drefnwyd i allu ymestyn oriau'r gwasanaeth er mwyn cynnal amlosgiadau ar benwythnosau, ond ni fu'n rhaid gwneud hynny. Roedd Cyngor Sir Y Fflint â chynlluniau i ddyblu gweithlu'i wasanaethau profedigaeth.
Dywedodd cynghorau Conwy a Gwynedd fod modd cynnal pob claddedigaeth ac amlosgiad dan y capasiti arferol.
Yng Nghasnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili a Mynwy, roedd yna drefniadau i gyflymu'r broses gofrestru marwolaethau, ymestyn oriau amlosgfeydd a chreu mwy o lefydd mewn marwdai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020