Cleddyf daufiniog llenwi bwlch yr Eisteddfod ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod

Mae rhoi blas o wledd ddiwylliannol arferol yr Eisteddfod Genedlaethol ar-lein wedi denu miloedd o wylwyr fyddai fel arall heb allu ei fwynhau yn y cnawd ar y Maes, ond mae'n rhaid ystyried goblygiadau ailadrodd elfennau o'r arbrawf eto yn y dyfodol.

Dyna awgrymodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Prifwyl Llŷn ac Eifionydd wrth ganmol yr hyn sydd wedi ei ddarlledu dan faner AmGen, cynllun sy'n ceisio llenwi'r bwlch yn absenoldeb Prifwyl eleni yn sgil y pandemig.

Dywedodd Michael Strain wrth y Post Cyntaf fod staff yr Eisteddfod Genedlaethol "wedi creu gwyrthiau a 'di gweithio'n ofnadwy o galed i gynhyrchu'r deunydd yma", sydd wedi cyrraedd pobl "ar hyd a lled y byd".

Ond mae hynny, meddai, yn "codi problemau yn ei dro, fel y mae'r wasg wedi ffeindio" wrth i bobl ddarllen eu straeon am ddim ar eu gwefannau yn hytrach na phrynu papur newydd.

Ffynhonnell y llun, Michael Strain
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant darllediadau AmGen i'w groesawu ond hefyd yn creu penbleth, medd Michael Strain

"Yn amlwg, fedrwch chi ddim rhoi cynnyrch safonol, sylweddol, swmpus fel hyn ar-lein heb ystyried sut 'dach chi am dalu amdano fo," dywedodd.

"A ma' hynny yn ei dro yn creu penbleth ac yn mynd i godi trafodaeth, yn symud ymlaen."

Mater arall, meddai, yw sicrhau'r un cyfleoedd i'r cynnwys gyrraedd pobl "efalla sy'm mor gyfforddus ar-lein". Ond mae'r arbrawf wedi amlygu cyfle "i ehangu neges y Steddfod a'r diwylliant Cymreig gwych ma' sydd ginnon ni".

Dywedodd iddo sylwi fod 3,700 o unigolion wedi gwylio'r Stomp ar-lein nos Iau.

"Mae rhywun sydd wedi bod yn y Babell Werin yn gwylio'r Stomp yn Llanrwst llynedd ac yn y blynyddoedd cynt yn gwybod gymaint o bobl sydd wedi bod yn gwasgu mewn i wylio digwyddiadau fel'a," meddai.

'Llenwi'n bwlch, ond ddim yn gyflawn'

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion, oedd i fod i ddigwydd yn Nhregaron yr wythnos hon, mae'r darllediadau AmGen ar y radio, teledu a'r we "wedi llanw rhywfaint o'r bwlch".

Ond "dyw'r profiad ar-lein ddim cweit yr un peth â'r profiad ar y Maes", medd Elin Jones.

"Dwi'n un o'r rhai o'dd efallai ddim yn siŵr a fyddai'r digwyddiade ar-lein yn cydio yn nychymyg pobl ond dwi'n meddwl fod yr hyn sydd wedi'i gyflawni wedi bod yn wych iawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones yn cael ei derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Bae Caerdydd yn 2018

Roedd Ms Jones a Mr Strain yn siarad ar y rhaglen ar yr hyn fyddai wedi bod yn ddiwrnod y Cadeirio petai Eisteddfod Ceredigion heb orfod cael ei gohirio am flwyddyn.

"Mae ei deimlo heddi [diffyg Eisteddfod eleni] ar fore dydd Gwener hyd yn oed fwy siomedig i feddwl fod y penwythnos braf yma sydd o'n blaenau ni, ddim yn mynd i fod yn benw'thnos ola' Eisteddfod Tregaron," meddai Ms Jones.

"Mi fydde hon wedi bod yn dipyn o benw'thnos ar ddiwedd yr Eisteddfod, felly mae [cynllun AmGen] wedi llanw rhywfaint o'r bwlch, ydi, ond ddim y bwlch yn gyfan.

"A felly y'n ni'n dal yn edrych ymlaen am wireddu yr Eisteddfod o'dd i fod wythnos yma, yr wythnos gyntaf mis Awst y flwyddyn nesa'."

Manteision a heriau blwyddyn ychwanegol, annisgwyl

Cytunodd y ddau bod yna gyfle i'r ddwy ardal wneud y mwyaf o'r 12 mis ychwanegol i godi arian, ymwybyddiaeth a momentwm, ond fod yna heriau hefyd tra bo'r argyfwng coronafeirws yn parhau.

Mae pwyllgorau lleol Ceredigion wedi eisoes wedi cyrraedd dau darged ariannol, ond mae "cynnal rhagor o ddigwyddiadau cymdeithasol codi arian wedi bod yn amhosib yn y cyfnod clo," medd Elin Jones.

"Os bydd amgylchiadau'n caniatáu i bobl ailddechre cwrdd, yna fyddwn ni wrth gwrs yn awyddus i wneud hynny... i greu falle y momentwm yna i ddenu falle mwy o bobl fydde ddim wedi ymwneud â'r Eisteddfod hyd yn hyn."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglenni radio a theledu yn parhau i ddarlled cynnwys yr Eisteddfod AmGen dros y penwythnos

Dywedodd Michael Strain fod pobl Llŷn ac Eifionydd wedi bod mewn "sefyllfa lle oeddan ni'n poeni taw ond 18 mis oedd yna i hel arian a chreu diddordeb". Ond nawr mae ganddyn nhw "ddwy flynedd gron bellach ac rhaid i ni fod bach yn ofalus bo ni ddim yn codi'r bwrlwm eto yn syth, rhy fuan..."

"Ma' pobl yn mynd i syrffedu yn hel arian a codi digwyddiada' am ddwy flynedd gyfan cyn yr Ŵyl," meddai.

"Dwi'n meddwl fydd rhaid ni witiad i weld beth sy'n digwydd efo'r feirws ma'," ychwanegodd gan fod y rheolau pellter cymdeithasol yn atal cynnal digwyddiadau cymdeithasol.

"Fydd y feirws felltith ma'n lleihau neu ein gada'l ni erbyn cyfnod y 'Dolig, gobeithio, i ni gael ailgydio yn petha' felly."