Esgeuluso'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd yn 'anfaddeuol'
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru gamu i mewn i achub y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, yn ôl ymgyrchwyr.
Cafodd £40m ei wario ar ailwampio rhan o'r adeilad a'i droi yn westy, a agorodd yn 2017.
Ond aeth y perchnogion - Signature Living Coal Exchange - i ddwylo'r gweinyddwyr ac nawr mae'r cwmni wedi cael ei wneud yn fethdalwr gorfodol.
Dywed Cymdeithas Ddinesig Caerdydd ac ymgyrch Achub y Gyfneidfa Lo fod yr adeilad - lle'r oedd pris glo ar draws y byd yn arfer cael ei benderfynu - bellach wedi cael ei "esgleuso mewn ffordd anfaddeuol".
Mewn llythyr at y prif weinidog, dywed yr ymgyrchwyr fod yr adeilad ar Sgwar Mount Stuart yn Mae Caerdydd wedi cael ei drin fel "baich yn hytrach nag ased ddiwylliannol".
"Mae ei ddyfodol unwaith eto yn y fantol, a nawr mae yna gyfle unigryw i gamu i'r adwy - gweithredwch os gwelwch yn dda i roi i'r Gyfnewidfa Lo y dyfodol y mae'n ei haeddu."
Dywedodd Nick Russell o Achub y Gyfnewidfa Lo eu bod yn dymuno gweld cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a grwpiau cymunedol i ddod o hyd i atebion ar gyfer dyfodol yr adeilad.
"Mae angen i ran nesa'r datblygiad, beth bynnag fydd hwnnw, fod ar sylfeini ariannol cadarn o'r cychwyn, gyda chynllun busnes cynaliadwy, neu fel arall mae unrhyw ateb yn mynd i fod yn un dros dro," meddai.
Dywedodd Nerys Lloyd-Pierce, cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, ei fod yn warthus fod yr adeilad wedi cael ei drin mor wael.
"Byddai adeilad mor nodedig yn unrhyw le arall yn y byd, fwy neu lai, wedi cael ei hadfer gyda chariad," meddai.
Aeth Signature Living Coal Exchange i'r wal gyda dyledion o tua £25m, yn cynnwys dros £1m i Gyngor Caerdydd, ac o gwmpas £12m i fuddsoddwyr unigol.
Mae'r swm mwyaf - £10.6m - yn ddyledus i gwmni Albendan Limited.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddiwedd Mehefin, dywedodd y gweinyddwyr, Wilson Field, fod yr adeilad mewn cyflwr gwael a bod cwmni yswiriant wedi crybwyll peryglon iechyd a diogelwch a phryderon am strwythur yr adeilad.
Oherwydd hyn, nid oedd yn bosib yswirio'r adeilad ac felly nid oedd modd ei werthu, yn ôl Wilson Field.
Maent hefyd yn credu na fydd gobaith adennill unrhyw arian i'r credydwyr, ond roedd gobaith y byddai'r Derbynnydd Swyddogol yn gallu gwneud yn well.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Rydym yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn perthynas a'r Gyfnewidfa Lo a phenderfyniad y gweinyddwyr.
"Rydym hefyd yn ymwybodol fod buddsoddwyr yn dal â diddordeb yn yr adeilad, a bod potensial i gwblhau'r gwesty.
"Unig ddiddordeb y cyngor o'r dechrau oedd helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r adeilad pwysig a hanesyddol hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd21 Mai 2017
- Cyhoeddwyd20 Mai 2017