'Hawliau plant yn cael eu hystyried yn rhy hwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae hawliau plant yn cael eu hystyried yn rhy hwyr yn y broses o benderfynu ar bolisïau newydd neu sut i wario arian Llywodraeth Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.
Wrth gyfeirio at gyfnod y pandemig dywed adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei bod yn fwy hanfodol nawr nag erioed "bod hawliau plant yn cael eu gwarchod."
Dywed y pwyllgor fod y mesurau yn y cyfnod clo wedi "cael effaith ar lawer o hawliau plant yn gyflym, gan gynnwys yr hawl i addysg, eu hawl i chwarae, a chyfyngiad ar gyswllt â ffrindiau a theulu i blant sydd wedi bod mewn gofal."
Daw'r feirniadaeth yn yr un wythnos ac mae BBC Cymru wedi bod yn edrych ar effaith Covid-19 ar bobl ifanc.
Mae'r pwyllgor wedi bod yn ystyried deddf gafodd ei phasio yn 2021 oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried effaith eu polisïau ar blant a phobl ifanc.
Dywedodd Lynne Neagle AS: "Mae'n hymchwiliad ar hawliau plant wedi'n harwain i'r casgliad bod yna gynnydd i'w wneud o hyd.
"Mae yna ddiffyg cyfeiriad at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol, a dim digon o dystiolaeth bod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu hystyried a'u harfer ar draws Llywodraeth Cymru gyfan.
"Mae hyn yn dangos i ni nad yw hawliau plant yn sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn unol â bwriad y ddeddfwriaeth."
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor fod y gyfraith wedi dylanwadu ar lu o bolisïau a phenderfyniadau, gan gynnwys trechu tlodi plant, y newid yn y gyfraith ar gosb gorfforol plant a'r cymorth sy'n cael ei roi i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ond bu son hefyd am bolisïau a gwasanaethau lle na chafodd y gyfraith newydd hon effaith, gan gynnwys:
A yw plant a phobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl y mae arnynt ei angen
Argaeledd lleoliadau gofal: lleoliadau gofal maeth a rhai diogel
Pryderon bod gwybodaeth gyfyngedig am achosion hiliol mewn ysgolion
Diffyg gallu pobl ifanc i gael mynediad at wasanaethau ieuenctid oherwydd eu bod yn cael eu cau
Cafodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), dolen allanol ei basio bron i ddegawd yn ôl.
Roedd y gyfraith yn golygu fod yn rhaid ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) fel rhan o benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru - ynghylch iechyd plant, addysg, yr amgylchedd a phwerau eraill oedd wedi eu datganoli.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020