Yr economi mewn dirwasgiad am y tro cyntaf ers 2009

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae economi'r DU yn swyddogol mewn dirwasgiad am y tro cyntaf ers yr argyfwng banciau 11 mlynedd yn ôl.

Un o'r sectorau i ddioddef waethaf y tro hwn yw lletygarwch, sy'n rhan bwysig o economi Cymru.

Y diffiniad swyddogol o ddirwasgiad ydi chwe mis o golli tir, ac mae hynny bellach wedi digwydd.

Roedd economi'r DU eisoes wedi crebachu o 2.2% yn chwarter cyntaf 2020, sef cyn y cyfnod clo oherwydd Covid-19.

Yn ffigyrau'r ail chwarter a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fore Mercher, mae'r economi wedi crebachu 20.4% ymhellach rhwng Ebrill a Mehefin.

Roedd yr economi hefyd wedi bod yn crebachu cyn hynny.

Y meini prawf pwysig i'r economi yw faint o nwyddau sy'n cael eu cynhyrchu, faint o wasanaethau sy'n cael eu darparu a beth yw effaith hynny ar swyddi pobl a'u cyflogau.

Yr economi'n dechrau tyfu eto

Wedi'r dirwasgiad diwethaf yn 2009, fe gymrodd hi rhai blynyddoedd cyn bod y cyfartaledd cyflog wedi'i adfer.

Wrth i'r cyfnod clo ddechrau llacio ym mis Mehefin, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud fod yr economi wedi dechrau tyfu eto - o 8.7% - ond fod hynny'n dal yn sylweddol wannach nag o'r blaen.

Cafodd y diwydiant adeiladu ei daro'n wael gyda'r gwaith yn lleihau o 35% a gweithgynhyrchu'n lleihau o 20%.

Ond lletygarwch a bwyd a welodd y crebachiad mwyaf, sef 86.7%, ac er bod hynny'n rhan fechan o economi'r DU, mae'n elfen bwysig i economi Cymru.

Julie James
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie James bod angen i Lywodraeth y DU ganfod datrysiad i'r berthynas masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd

Dywedodd Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru, Julie James bod angen i Lywodraeth y DU weithredu er mwyn helpu Cymru.

"Mae 'na dri pheth y gall Llywodraeth y DU ei wneud na allwn ni [Llywodraeth Cymru]," meddai wrth Radio Wales.

"Un ydy'r ffyrlo, a chefnogi busnesau sydd ddim yn gallu dod â'u holl staff yn ôl ond sydd yn dal eisiau bod yma ar ddiwedd y pandemig.

"Yr ail ydy pecyn cefnogaeth fwy hael i bobl sy'n cael eu diswyddo fel bod modd iddyn nhw ganfod cyflog arall yn sydyn.

"A'r trydydd ydy ein perthynas masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd - ry'n ni'n ddibynnol iawn ar hynny, ac mae'r syniad ein bod yn mynd tuag at Brexit heb gytundeb neu Brexit caled yng nghanol hyn yn anghredadwy a bod yn onest."

Pwysleisiodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, bod Llywodraeth Cymru'n "gwneud popeth o fewn ein gallu" i liniaru effeithiau coronafeirws ar fusnesau a swyddi.

Ond ychwanegodd: "Rhaid i lywodraeth y DU nawr gymryd camau pellach i warchod pobl a swyddi gan gynnwys parhau gyda'r cynllu ffyrlo allweddol tan ein bod heibio'r gwaethaf yn yr argyfwng yma."