Kieffer Moore yn arwyddo i Gaerdydd o Wigan Athletic
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r ymosodwr Kieffer Moore o glwb Wigan Athletic.
Cafodd cais yr Adar Gleision o £2.3m am y chwaraewr rhyngwladol ei wrthod ym mis Ionawr.
Wedi i Wigan fynd i ddwylo'r gweinyddwyr gan ddisgyn i Adran Un, roedd y chwaraewr 6 troedfedd 5 modfedd ar gael unwaith eto.
Y gred yw bod Caerdydd wedi talu ychydig yn llai na £2m am Moore.
Roedd clwb Middlesbrough, sydd dan reolaeth cyn-reolwr Caerdydd Neil Warnock, hefyd yn llygadu Moore, ond mae'r ymosodwr 28 oed wedi arwyddo i'r Adar Gleision ar gytundeb tair blynedd.
Roedd gan glybiau eraill ddiddordeb ynddo hefyd, ond Caerdydd oedd y cyntaf i'r felin y tro yma, a Moore yw'r chwaraewr cyntaf i glwb y brifddinas ei arwyddo yr haf hwn.
Bwriad rheolwr Caerdydd Neil Harris oedd i gryfhau'r elfen ymosodol, gyda Lee Tomlin yn gorffen tymor 2019-20 fel y prif sgoriwr gydag wyth o goliau.
Sgoriodd yr ymosodwr Robert Glatzel, y chwaraewr canol cae Joe Ralls a'r asgellwr Junior Hoilett saith gôl yr un ac fe ddaeth y clwb yn bumed yn y Bencampwriaeth, cyn colli i Fulham yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.
Daeth Moore yn ffefryn gyda chefnogwyr Cymru wedi iddo sgorio nifer o goliau pwysig yn erbyn Slofacia ac Azerbaijan yn yr ymgyrch lwyddiannus i gyrraedd Euro 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2019