Ateb y Galw: Yr actor Dafydd Rhys Evans
- Cyhoeddwyd

Yr actor Dafydd Rhys Evans sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Elen Morgan yr wythnos diwethaf.
Mae Dafydd yn wreiddiol o Sir Gâr. Chwaraeodd Fferet yn y gyfres Darn o Dir ar S4C, ac mae bellach yn actio rhan Dylan yn Rownd a Rownd.
Pan dydy o ddim i fyny yn y gogledd yn ffilmio, mae o'n brysur yn gigo gyda'i fand Tom Collins.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Amser stori diwedd dydd yn nosbarth Mrs Evans yn Ysgol Banc.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Jet o Gladiators. OWFF!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ar ôl noson feddwol iawn yn Maes B blynydde'n ôl, nes i godi ganol nos yn angen mynd i'r tŷ bach. Yn lle mynd tu allan i'r babell fel person call, nes i benderfynu taw'r peth gore i neud bydde pi-pi yn handbag fy nghyn gariad. Saff i ddweud, o'dd y siwrne gytre yn un dawel ac oeraidd iawn (a damp)!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Rhyw ddwy flynedd yn ôl pan ges i gout! Fi 'di torri lot o esgyrn yn fy nghorff, ond gout yw'r poen gwaethaf i fi erioed 'di cael. Allai ddim dychmygu pa mor boenus yw e i eni babi, ond ma' gout yn agos weden i... (jôc)! Yn anffodus fi 'di gorfod torri lawr ar y gwin coch a caws ers hynny!

Mae Dafydd wedi actio mewn stori anodd a theimladwy yn Rownd a Rownd yn ddiweddar, wrth i'w gymeriad, Dylan, ddelio â chanser angheuol ei wraig, Fflur
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fi'n licio pethe 'di cael eu 'neud fel dwi ishe nhw. Pan ma' rhywun yn neud y pethe mewn ffordd gwahanol, ma' fe'n corddi fi!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bancffosfelen, y pentref gore yng Nghymru! Dyna lle ges i fy magu, a byw nes symud lan i Gaerdydd cwpwl o flynydde yn ôl.
Llwyth o atgofion arbennig o chware ac adeiladu dens. A ffrindie am oes. Does unman yn debyg i adre!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn San Diego, blynydde yn ôl. 'Nath fi a dou o'n ffrindie gore fynd mas i wylio brawd fy ffrind yn chwarae i Gymru yn twrnament 7's IRB rygbi. Oedd e'n benderfyniad hollol funud ola' a gethon ni wythnos anhygoel, yn enwedig ar ddydd Sadwrn y twrnament. Rygbi a cwrw trwy'r dydd, a mas yn y Gaslamp Quarter yn y nos. Joio!

Gaslamp Quarter - ardal boblogaidd yn San Diego i fynd am noson allan
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gonest, hapus, chwareus.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Coming to America. Eddie Murphy ar ei ore, a ffilm gynta Samuel L. Jackson.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fy enw gwreiddiol i oedd Rhys, ond roedd fy mrodyr a chwaer yn cadw galw fi'n Dafydd, felly oedd rhaid newid yr enw.

O archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Hedfan fy nheulu a ffrindie i Efrog Newydd am barti enfawr yn y bar yn y Wythe Hotel yn Williamsburg.
Beth yw dy hoff gân?
Ar y foment bydde rhaid i fi weud Wagon Wheel gan Darius Rucker. Ond fi wastod yn gweud Kiss from a Rose gan Seal - dwli ar yr alaw.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Will Ferrell. Fi'n dwli ar ei ffilms e, a wir yn credu taw fe yw un o'r bobl mwya' doniol yn y byd. 'Sai'n credu bod actorion comedi yn cael y clod ma' nhw'n haeddu - ma' fe'n sgil a chrefft anodd iawn.

Will Ferrell oedd seren a chyd-awdur y ffilm gomedi boblogaidd Anchorman: The Legend of Ron Burgundy
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - Clasur, ond bydde rhaid i fi fynd am paté ar dost. Allen i fwyta paté bob dydd (sy'n egluro'r gout!)
Prif gwrs - Cinio dydd Sul bîff Mamgu. Roedd hi'n cwcan y cig yn y rayburn, ac oedd y tato rhost yn anghredadwy!
Pwdin - Pwdin reis a mefys ges i ym mwyty Brat yn Llundain. Syml ond anhygoel!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Robin Ceiriog (Mathew yn Rownd a Rownd), jest er mwyn gallu gweud wrth yn hunan bo' fi ddim mor ddoniol a beth i fi'n meddwl ydw i!
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Lois Cernyw