Cynlluniau i ailagor y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
The Exchange HotelFfynhonnell y llun, Chris Sampson
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Gwesty'r Exchange yn 2017

Mae syndicet buddsoddi a chyn-gynghorydd yn cynllunio i ailagor Y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd fel gwesty wedi i'r cwmni sy'n berchen ar yr adeilad fynd i'r wal.

Dywed y consortiwm o randdeiliaid eu bod yn gobeithio gweithio gyda'r derbynnydd i gael y busnes yn ôl ar ei draed wedi i gwmni Signature Living Coal Exchange gael ei wneud yn fethdalwr gorfodol gyda dyledion o oddeutu £25m.

Fe agorodd yr Adeilad Rhestredig Gradd II fel gwesty yn 2017 wedi £40m o waith adnewyddu.

Ond mae ymgyrchwyr sydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i achub y Gyfnewidfa Lo yn dweud bod ganddyn nhw amheuon am y cynlluniau newydd.

'Diogelu swyddi staff'

Deallir bod cyn-gynghorydd Caerdydd, Ashley Govier, sy'n gyfrifol am gwmni rhedeg gwasanaethau gwesty ac sydd wedi bod yn darparu staff i'r Exchange, wedi gwneud cais am drwydded alcohol a chynnal digwyddiadau byw - trwydded a ddaeth i ben wedi i'r gwesty fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r cais newydd wedi cael ei gyflwyno yn enw Eden Grove Properties Limited - un arall o gwmnïau Mr Govier.

Dywed Mr Govier ei fod ar hyn o bryd yn talu costau cyflog 61 o staff y gwesty a'i fod yn gobeithio diogelu cymaint â phosib o'r swyddi.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd ei fod yn "adnabod llawer o'r staff a'i fod yn poeni nad oedd cynllun penodol ar eu cyfer".

"Ein bwriad yw arbed swyddi cymaint o staff â phosib," meddai.

Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y bydd modd cynnal priodasau a digwyddiadau eraill sydd wedi cael eu trefnu yn y gwesty.

Disgrifiad o’r llun,

Dyddiau aur y fasnach lo, pan oedd Caerdydd yn borthladd glo mwya'r byd

Mae Mr Govier yn cydweithio â syndicet o thua 30 o fuddsoddwyr.

Rhyngddynt, nhw sy'n berchen ar les tir 999 mlynedd y rhan fwyaf o ardaloedd cymunedol y Gyfnewidfa Lo, gan gynnwys y neuadd fasnachu hanesyddol ac ystafelloedd gwely.

Philip Ingman sy'n rheoli'r syndicet a'r nod, meddai, yw paratoi y gwesty ar gyfer ailagor a thalu buddsoddwyr.

Ond mae'n dweud ei bod yn dasg gymhleth gan fod yna gymaint o bobl yn berchen ar ystafelloedd a bod credydwyr eraill hefyd yn rhan o'r busnes.

Disgrifiad o’r llun,

Cloc a goleuadau swmpus y gyfnewidfa, sy'n esiampl o foethusrwydd yr adeilad ar un adeg

Y trydydd rhanddeiliad sy'n rhan o'r cynllun i ailagor y gwesty yw Derek Watts - dyn busnes o Gaergrawnt.

Mae ei gwmni Albendan Limited yn un o brif gredydwyr y cwmni sydd wedi mynd i'r wal gyda dyledion o oddeutu £10m.

Dywed llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd y bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer cais trwydded Eden Grove Properties Limited yn gorffen ar 28 Awst ac yna bydd gan y cyngor 20 diwrnod arall i ddod i benderfyniad.

Sut fydd yr adeilad yn edrych?

Mae rhan helaeth o'r adeilad wedi ei orchuddio â sgaffaldiau a'r amcangyfrif yw fod y gost o gwblhau'r gwaith o'i adnewyddu oddeutu £8m.

Dywedodd Nerys Lloyd-Pierce o Gymdeithas Ddinesig Caerdydd: "Ein hofn yw y bydd calon ac enaid y Gyfnewidfa Lo yn cael eu colli a bydd gwydr a thŵr diystyr yn gorchuddio'r blaen."

Yn ôl Nick Russell o'r ymgyrch sy'n ceisio diogelu'r Gyfnewidfa Lo, mae'n galonogol gweld bod ymdrechion i ailagor yr adeilad ar y gweill ond mae pryderon am ei ddyfodol yn y tymor hir.

Disgrifiad o’r llun,

Gwaith y pensaer o Gaerdydd, Edwin Seward, yw'r Gyfnewidfa a agorwyd yn 1886

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth ymgyrchwyr dros gadw'r adeilad a'r Gymdeithas Ddinesig ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ei annog i'w ddiogelu.

Gan mai perchennog preifat sy'n berchen ar yr adeilad, deallir bod pwerau Llywodraeth Cymru a chorff cadwriaethol Cadw wedi'u cyfyngu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r Prif Weinidog yn ymateb yn swyddogol i lythyr yr ymgyrchwyr ac ychwanegodd: "Mae gan berchnogion a'r rhai sy'n preswylio mewn adeiladau hanesyddol ddyletswydd i gadw ein hetifeddiaeth ac y mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, yn bwriadu cydweithio cymaint â phosib gyda nhw."