Geraint Jarman yn 70
- Cyhoeddwyd
Geraint Jarman yw un gerddorion Cymraeg mwyaf cynhyrchiol a dylanwadol ei gyfnod.
Ar ddiwrnod ei benblwydd yn 70, dyma gyfweliad arbennig wrth iddo baratoi i ryddhau albym newydd Cwantwm Dub ar label Ankstmusik.
Sut fyddwch chi'n dathlu'r pen-blwydd?
O'n i wedi bwriadu cynnal parti mawr mewn lleoliad diddorol, gyda PA a cherddorion dwi'n hoffi, gogyfer fy ffrindiau, fy nheulu a fi. Dipyn o her i mi gan nad ydw'i erioed 'di bod yn berson am bartïon mawr.
Petai'r parti 'di cymryd lle, fe fyddwn wedi gofyn i Andy Jones, sy'n gweithio yn siop recordiau Spillers ac sy'n dipyn o DJ yn ei amser sbâr i gymryd yr awenau efo'r miwsig gan fod ganddo chwaeth go eang ac mae'n hoff o reggae fel myfi.
Ond yn lle, eleni byddaf yn gwahodd ychydig aelodau o'r teulu ac ychydig o'm ffrindiau draw i'r tŷ am ddiod ac ychydig o ddanteithion wedi eu paratoi gan bartner fy merch Lisa, y cogydd Padrig Jones fydd yn siŵr o baratoi bob math o betha' hyfryd.
Oeddech chi'n disgwyl bod yn rhyddhau recordiau yn 70?
Pan o'n i'n fy ugeiniau cynnar roeddwn i'n gymeriad swil a chymharol strêt. O'n i wedi bod yn gweithio fel actor efo Cwmni Theatr Cymru a Theatr yr Ymylon ac ar y teledu yn y comedi Glas y Dorlan. Roeddwn hefyd 'di bod yn sgwennu sgriptiau Pobol y Cwm a ballu.
Serch hynny roeddwn yn teimlo rhyw wacter ynof, fel petai ryw elfen o fywyd yn gwibio heibio heb i mi gael cyfle i'w flasu. Miwsig newidiodd hyn, ar ôl recordio Gobaith Mawr y Ganrif a Tacsi i'r Tywyllwch dechreuais newid a theimlo'n fwy hyderus, yn ddigon hyderus i ffurfio'r Cynganeddwyr a dechrau gigio a mynd ymlaen i recordio Hen Wlad fy Nhadau a Gwesty Cymru.
Roedd yn gyfnod lle'r oedd bywyd yn heriol dros ben yn llawn gwaith caled efo profiadau newydd a cyfleoedd di-ri i ehangu fy hun fel person. Gwir roedd y 'ffordd o fyw' yn gallu bod yn sialens ac ambell gyfnod yn eithaf gwyllt ond gwyddwn na fedrwn 'neud beth o'n i'n 'neud petawn i'n colli fy nisgyblaeth. O'n i'n lwcus nad oeddwn yn yfed alcohol ar y pryd ac roedd gen i bethau fel Aikido, y martial art, i gadw fi'n llonydd a phethau fel reggae a Rastafari.
Doeddwn i ddim yn rhagweld pryd hynny y byddwn i'n cyrraedd saithdeg, heb sôn am gyrraedd saithdeg ac yn dal i recordio a gigio! Dwi yn synnu weithiau fy mod i'n dal i wneud ond ar y llaw arall dwi'n meddwl taw'r miwsig, y recordio a'r gigio sydd wedi cadw fi fynd a chadw fi'n ffit. Mae holl brofiadau'r deng mlynedd ddiwethaf wedi bod yn wyrthiol...
Cwantwm Dub fydd y pumed albwm mewn 10 mlynedd. Pam fod hwn wedi bod yn gyfnod mor gynhyrchiol?
Tua degawd yn ôl doedd pethau ddim yn rhy wych yn fy mywyd, dipyn o salwch efo cefn gwael, poen parhaol a morphine.
Ymhen ychydig flynyddoedd cefais lawdriniaeth ar fy asgwrn cefn ac roedd hynny'n wyrthiol. Er yr oeddwn yn sgrifennu cryn dipyn o ganeuon newydd doedd gan Sain ddim diddordeb mewn recordio albwm stiwdio newydd. Aeth hyn yn ei flaen am dipyn tan i Emyr Glyn Williams o Recordiau Ankst a Robin Llywelyn estyn eu cefnogaeth.
Heb y ddau yma ni fyddaf wedi medru recordio'r albwm Brecwast Astronot ac ni fydda'r cyfnod o gigio a rhyddhau recordiau 'di digwydd. Ffurfiwyd band newydd gogyfer y recordio a'r gigio efo Pete Hurley ar y bas, Tim Robinson ar y drymiau, Peredur ap Gwynedd ar y gitâr (mae Mei Gwynedd wedi cymryd drosodd bellach) a Frank Naughton ar yr allweddellau ac yn cynhyrchu. Hefyd daeth fy merched Lisa, Hanna a Mared i ganu.
Dwi wedi bod yn lwcus fod yr awen wedi dod yn ôl ac wedi aros efo fi. Momentum yw pob dim.
Beth allwn ni ei ddisgwyl o'r albym newydd?
Mae Cwantwm Dub yn albwm reggae dub o'r albwm Cariad Cwantwm. Mae'r mixes gan Sir Doufus Styles sef Krissie Jenkins ac fe'i cynhyrchwyd yn Wings for Jesus Studios yng Nghaerdydd. Hefyd ar yr albwm mae 'na ddau mics dub gan Fran Naughton.
Rhywsut neu'i gilydd fe ddaru Krissie Jenkins glywed copi o Cariad Cwantwm, a'i fwynhau a'n awyddus i gymysgu dubs a fersiynau o'r gwaith.
Dwi'n falch iawn o'r albwm a dwi'n falch iawn taw Krissie sydd wedi gwneud y gwaith. Dwi'n 'nabod o ers blynyddoedd. Pan yn ei arddegau roedd yn dod i'n gweld yng Nghlwb y Casablanca. Nawr mae'n un o'r cynhyrchwyr gorau a phrysuraf sy' ganddom, wedi gweithio llawer efo artistiaid Cymraeg. Dwi'n ei gofio fel offerynnwr taro yn Catatonia ar y fideo Difrycheulyd. Mae Krissie oherwydd ei gefndir naturiol yn Butetown yn gwybod yn iawn beth yw reggae a beth yw cerddoriaeth dub ac mae hynny'n dangos yn ei waith.
Ydi hi wedi mynd yn haws neu'n fwy'n anodd i artistiaid yng Nghymru?
Does dim dowt fod pethau'n llawer anoddach i artistiaid yng Nghymru heddiw. Yn sgil Covid mae pob artist 'di colli cyflog a ffioedd perfformio yn gyfan gwbl oherwydd canslo pob perfformiad, gig ac achlysur byw a dwi'm yn gweld pethau'n newid am dipyn. Dwi'n teimlo ar goll heb gael chwarae'n fyw, dim byd i edrych 'mlaen ato o gwbl.
Beth yw'r haf heb gyfle i greu cerddoriaeth byw, ond y sgandal fwyaf heb ddim dowt, yw taliadau PRS/MCPS. Profwyd gostyngiad a lleihad eithafol yn y taliadau. Lle unwaith y bydda artist, dudwch, yn ennill £10,000 yn flynyddol o ran taliadau bellach mae'n lwcus ennill £1,000.
Ers talwm pan oedd y BBC yn ystyried Cymru yn wlad ar ei phen ei hun roedd pethau'n ocê ond bellach mae'n cael ei ystyried fel rhanbarth o Loegr ac felly mae'r taliadau'n llai ac mae hynny'n warthus. Mae'r sefyllfa gigs yn ddigon gwael hefyd, maent yn brin ac maen nhw i gyd yn cael eu cynnal yn yr haf mewn ffurf rhyw ŵyl arbennig mwy neu lai, anodd gwneud llawer o arian mas o gigs!
Yn wleidyddol mae'n gyfnod diddorol a dweud y lleiaf. Beth yw eich barn am sefyllfa Cymru a'r byd ar hyn o bryd, ac ydych chi'n gallu ymateb yn greadigol i'r hyn sy'n digwydd?
Mae sefyllfa Cymru a'r byd yn eithaf truenus ar hyn o bryd. Dwi'n dueddol o ddarllen y Guardian o glawr i glawr bob dydd a gwylio gormod o newyddion ar y teledu a phennu lan 'di syrffedu'n llwyr rhwng Covid19, Johnson a Trump. Dwi'n troi'n rhyw fersiwn o grumpy Will Self!
Dyna pam dwi mor falch taw albwm offerynnol yw Cwantwm Dub yn bennaf. Miwsig i fynd â'r ymennydd am dro bach i rywle newydd....
Hefyd o ddiddordeb: