Therapi cerdd yn 'help pan fo lleisio teimladau yn anodd'

  • Cyhoeddwyd
Lynnsey GwyneddFfynhonnell y llun, Greta Gwynedd

Mae'r pandemig covid-19 wedi golygu cryn newid i'n bywydau gyda mwy o bobl angen help i ddelio gyda problemau iechyd meddwl yn sgil hynny.

Un sy'n helpu pobl gyda gorbryder a chyflyrau eraill yw'r therapydd cerdd Lynnsey Gwynedd, sy' wedi addasu ei gwaith yn y cyfnod clo er mwyn gweithio gyda pobl dros y we.

Bu'n siarad am ei gwaith ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar Radio Cymru.

Mae cerddoriaeth yn ran o'n bywydau ac yn chwarae rôl enfawr yn ein hunaniaeth ac yn ein diwylliant, a gall fod yn gyfrwng pwerus pan yn cysylltu gydag ein hemosiynau.

Does dim angen sgiliau na phrofiad mewn cerddoriaeth i elwa o therapi cerdd, ac yn syml, mae'r offerynnau 'r gerddoriaeth yn fodd o gyfathrebu mewn gwagle diogel pan fo lleisio teimladau yn anodd.

Cyfryngwaith clinigol seicolegol ydy Therapi Cerdd sy'n cael ei gynnal gan Therapydd Cerdd cofrestredig (HCPC) i helpu pobl o bob oedran ac 'rydym yn gweithio ym myd addysg ac yn y maes iechyd a chymdeithasol.

Mae posib gweithio efo ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys unedau newydd-anedig, ysbytai, ysgolion, unedau iechyd meddwl ac adferiad niwroleg, carchardai a gyda pobl sy'n byw efo dementia.

Cyn pandemig Covid-19 roedd bron pob sesiwn therapi cerdd yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ond ers y clo mawr mae therapyddion cerdd yn defnyddio platfformau ar-lein i helpu unigolion sydd mewn argyfwng neu yn profi trawma.

Gwaith yn yr hosbis

Nes i weithio efo ystod eang o ddeiagnosis mewn hosbis gan gynnwys gorbryder, rheoli poen ac roedd therapi cerdd yn rhoi cyfle i'r cleifion archwilio ystod o emosiynau.

Ffynhonnell y llun, BSIP

Pan mae rhywun yn cyrraedd diwedd ei hoes, mae'n naturiol i unigolion deimlo'n euog, yn ofnus, yn flin am ddewisiadau; ac mewn gofod diogel mae'r berthynas therapiwtig yn rhoi allbwn i'r teimladau hyn.

Roedd sawl un hefyd yn elwa o atgofion caneuon ac yn cael budd mawr o adlewyrchu ar fywyd ac atgofion melys. Tra'n gweithio efo cleientiau efo dementia mi fysen nhw'n gwrando ar gân ac yna cafwyd hanesion mawr o gyfnodau hapus eu bywydau.

Byddai'r unigolion hyn yn llai ynysig ar ôl sesiwn ac yn dychwelyd i'r grŵp yn sgwrsio am yr hen ddyddiau, y bywyd lle roedden nhw'n cofio fel man 'saff'.

Roedd rhai o'r cleifion yn gofyn i wrando arna i'n chwarae ac eraill yn ymgysylltu yn y byrfyrfyrio ac roedd hyn yn rhoi cyfle iddynt fod yn greadigol, o gyflawni a chael bod mewn rheolaeth tra bo'r afiechyd marwol yn rhoi teimladau i'r gwrthwyneb.

Defnyddiais gerddoriaeth fel modd i leddfu'r boen a byddai ansawdd sain y delyn, er enghraifft, yn ymlacio'r cyhyrau ac yn rheoli'r system nerfol.

Ffynhonnell y llun, Lynnsey Coull Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

"Mantais therapi cerddoriaeth ydy i ddilyn y cleiant"

Creu gwagle diogel

Pan mae plentyn yn derbyn therapi cerddoriaeth, realaeth y sefyllfa ydy bod yr unigolyn yn mentro i ystafell gyda dieithryn(os nad oes cyfle i gwrdd cyn y sesiwn) - ac efallai gydag offerynnau sy'n gwbl estron iddyn nhw.

Mewn sefyllfa o'r fath, creu gwagle diogel fyddai fy mlaenoriaeth; heb berthynas therapiwtig, un y gall y plentyn ymddiried a chael ffydd ynddi, nid oes modd cyd-weithio. Rhaid i'r cleient deimlo'n gwbl gyfforddus.

Er mwyn creu hyn, mi fuaswn i, er enghraifft, yn cadw fy mhellter a gadael i'r plentyn deimlo'n saff o fewn yr ystafell drwy chwarae cerddoriaeth sy' efallai yn dilyn ei anadl.

Os nad oes ymateb, mi faswn i'n cyflwyno a chanu ei enw / ei henw ac efallai datblygu hynny. Y brif nod fyddai rhoi gwybod (trwy'r gerddoriaeth) mod i'n agored i beth sydd yn ei wneud o / hi fwyaf cyfforddus; creu'r teimlad o afael yn y gwagle fel mam / tad / gwarchodwr yn gafael yn y plentyn; cyflwyno ei enw /ei henw ac wedyn, os nad oes unrhyw newid yn symudiad y corff, efallai y baswn i'n cyflwyno enw fy hun ac adeiladu ar hyn.

Y gamp ydy i ddefnyddio fy offeryn a fy llais a chreu gwagle ble mae'r plentyn yn teimlo'n saff.

Locdown a sesiwn cyntaf ar-lein

Mae'r person yn ei 40au ac yn byw efo gorbryder eithafol oherwydd y sefyllfa ac yn tueddu i fod yn ddagreuol iawn. Bydd meithrin y berthynas therapiwtig fel ei bod hi'n teimlo'n saff yn fy nghwmni yn sialens dros y we - y cynllun ydy i chwarae pwt bach syml, dilyn cordiau 'da ni gyd yn gyfarwydd efo ac annog gwaith byrfyfyrio.

Falle fydd y sesiwn yn mynd ar drywydd gwbl wahanol - a mantais therapi cerddoriaeth ydy i ddilyn y cleiant a newid a dilyn be' sy angen arni nhw ar y pryd.

Gwrandewch ar Lynnsey'n siarad am ei gwaith ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul (Gerallt Pennant yn cyflwyno) ar Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb