'Atgyfodi diddordeb o'r newydd' yn y tŷ unnos
- Cyhoeddwyd
Mae academydd wedi dweud fod diddordeb yn y dull o adeiladu tai unnos ar gynnydd, wrth i brisiau tai olygu nad oes modd i lawer o bobl ifanc ymuno gyda'r farchnad dai.
Dywed Dr Juliette Wood, sydd yn arbenigo mewn llên gwerin ym Mhrifysgol Caerdydd fod traddodiad o godi seiliau tŷ unnos ar dir comin mewn un noson yn dod yn fwyfwy perthnasol y dyddiau hyn, gyda phrisiau tai yn "achosi anawsterau" i bobl ifanc.
"Mae na elusen i'r digartref yn ardal Wrecsam o'r enw Tŷ Unnos, ac yn 2009 fe adeiladodd Coed Cymru dŷ unnos ar gyfer Gŵyl y Smithsonian yn Washington DC.
"Mewn cyfnod ble mae'r cynnydd mewn prisiau tai yng nghefn gwlad Cymru unwaith eto yn achosi anawsterau i bobl ifanc i aros yn y pentrefi lle cawsant eu geni, mae diddordeb o'r newydd mewn gwerthoedd fel y tai unnos."
Codi tai unnos
Roedd y traddodiad o adeiladu tai unnos yn gyffredin ar draws Cymru rhwng y 17eg a 19eg ganrif.
Yn ôl y traddodiad, roedd modd i unigolyn hawlio cartref ar dir comin drwy adeiladu tŷ arno rhwng machlud a gwawr y diwrnod wedyn.
Roedd yn rhaid i fwg godi o'r simdde cyn toriad gwawr, ac roedd rhai traddodiadau lleol yn bodoli hefyd. Yn Sir Ddinbych, roedd adeiladwr y tŷ hefyd yn gallu hawlio'r tir o amgylch yr adeilad hyd at bellter yr oedd yn gallu taflu bwyell o bedair congl y tŷ.
'Amhosib gweld' enghreifftiau gwreiddiol
Er fod y traddodiad yn un cyffredin ar y pryd, dywed Dafydd Wiliam, prif guradur adeiladau hanesyddol Amgueddfa Cymru fod dod o hyd i enghreifftiau gwreiddiol o dai unnos bron â bod yn amhosib y dyddiau hyn.
"Gan fod yn rhaid eu hadeiladu dros nos, roedd bythynnod unnos yn strwythurau syml wedi'u hadeiladu o blethwaith a dwb neu dywarchen, ac wedi'u toi â tho gwellt syml.
"Roedd angen iddyn nhw bara dim mwy na blwyddyn tra gallai'r teulu adeiladu adeilad mwy parhaol, ond ar ôl sefydlu hawliad i'r tir dros nos, roedd y tai unnos a ddaeth yn ystod y misoedd canlynol yn gadarnach, wedi'u hadeiladu o gerrig a llechi, ac yn aml roedd ganddynt lawr mesanîn bach neu 'lofft crog' fel lle cysgu.
"Felly er bod bythynnod y gallech chi ddweud sy'n rhan o'r traddodiad tai unnos, does dim enghreifftiau gwreiddiol wedi goroesi."
Ymhlith casgliad Amgueddfa Sain Ffagan mae bwthyn Llainfadyn, enghraifft gynnar o dŷ unnos parhaol, a adeiladwyd yn 1762 yn Rhostryfan, Gwynedd.
Fe gafodd ei ailgodi yn yr amgueddfa yn 1962.
Cafodd y tŷ unnos olaf ei adeiladu yn 1882 yn Sir y Fflint gan bedwar brawd o Sir Gaerhirfryn.
Weithiau mae Tŷ Hyll ger Betws y Coed yn Eryri yn cael ei ddisgrifio fel bwthyn tŷ unnos, ond mae'n debyg iddo gael ei adeiladu yn y 19eg Ganrif fel fersiwn ramantus o'r traddodiad.
Nid oes gan hawliau adeiladu tai unnos unrhyw sail yng nghyfraith gwlad Cymru a Lloegr, nag yn neddfau Cymraeg canoloesol Hywel Dda.
Ond mae yna draddodiad tebyg wedi bodoli yn Iwerddon, yr Eidal, Ffrainc a Thwrci dros y canrifoedd.
"Rhwng yr 17eg a'r 19eg ganrif, roedd cau tir ar gyfer creu ffermydd mawr, preifat, gan ddadfeddiannu' rhai oedd yn byw ac yn ennill eu bywoliaeth o'r tir hwnnw, yn gwthio'r tlodion gwledig i'r ymylon.
Thema sy'n gyffredin i lawer o ranbarthau'r byd.
"Fel traddodiad llên gwerin, nid oedd unrhyw reolau cadarn ac efallai bod pobl wedi credu gwahanol bethau mewn gwahanol ardaloedd. Mewn rhai ardaloedd credai pobl y byddai taflu bwyell o drothwy'r bwthyn oedd wedi ei orffen yn hawlio maint llain o dir oedd ar gyrion yr adeilad," meddai Mr Wiliam.
"Ond gan y byddai bwyell wedi bod yn arf gwerthfawr i deulu tlawd, ni fyddai unrhyw un wedi meiddio ei ddinistrio trwy ei hyrddio mewn gwirionedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020