Tymor Uwch Gynghrair Cymru i ddechrau ar 11 Medi
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru yn dechrau ar 11 Medi.
Daw wedi i'r gymdeithas gael cadarnhad bod y gynghrair wedi cael statws athletaidd elît gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n dilyn cydweithio rhwng y gymdeithas, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a'r gynghrair ei hun.
Ond ni fydd cefnogwyr yn cael bod yn bresennol ar y dechrau gan fod cyfyngiadau Covid-19 yn dal mewn grym.
Er hynny, mae CBDC hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd tri digwyddiad chwaraeon yn cael eu treialu gyda thorf o 100 o bobl dros y tair wythnos nesaf.
Mae CBDC wedi anfon cynlluniau at Uwch Gynghrair Cymru er mwyn bod yn rhan o dreial gyda thorfeydd mwy yn y dyfodol, yn ddibynnol ar lwyddiant y treial cyntaf, os bydd coronafeirws yn dal dan reolaeth.
Yr Uwch Gynghrair yn unig i ddychwelyd
Does dim cynlluniau gan Lywodraeth Cymru i newid eu canllawiau ynglŷn â'r cynghreiriau o dan yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.
O ganlyniad, fe fydd rhaid i glybiau o haenau is nag Uwch Gynghrair Cymru ddilyn canllawiau Dychwelyd i Chwarae - Cymal 2 CBDC yn y cyfamser gan fod pêl-droed cystadleuol wedi'i wahardd.
Bydd CBDC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru i arolygu'r sefyllfa.
Dros yr wythnosau diwethaf mae'r 12 clwb yn yr Uwch Gynghrair wedi croesawu aelodau o'r gymdeithas bêl-droed ac S4C fel y prif ddarlledwr i'w meysydd chwarae i gytuno ar reolau pellter cymdeithasol ar gyfer gemau.
Bydd 'Ardal Goch' ar gyfer pob gêm, a fydd yn lleihau'r nifer o bobl o amgylch y chwaraewyr.
Fel rhan o'r Canllawiau Dychwelyd i Chwarae, bydd chwaraewyr, staff technegol, swyddogion y clybiau, y dyfarnwyr a staff gweinyddu yn cymryd rhan mewn asesiadau meddygol a phrawf tymheredd wrth gyrraedd y stadiwm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020