Achub dyn mewn shorts a chrys-T oddi ar Cader Idris

  • Cyhoeddwyd
AberdyfiFfynhonnell y llun, Tîm Achub Aberdyfi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tîm achub eu galw am 19:30 nos Sadwrn

Mae tîm achub mynydd wedi annog dringwyr elusennol i baratoi'n iawn ar ôl iddyn nhw achub dyn oedd yn gwisgo shorts, crys-T a siaced ysgafn oddi ar Cader Idris.

Roedd y dyn 59 oed yn rhan o grŵp o bedwar o bobl a oedd yn ceisio cyflawni'r her o ddringo tri chopa Cymru ddydd Sadwrn er mwyn codi arian i elusen.

Ar ôl cael wahanu oddi wrth y grŵp, fe aeth y dyn ar goll mewn tywydd gwael.

Cafodd y gwirfoddolwyr o dîm Chwilio ac Achub Aberdyfi eu galw am 19:30 pan oedd y dyn eisoes wedi bod ar goll ers bump awr.

Daeth y criw o hyd iddo yn oer ac yn llwglyd - nid oedd ganddo unrhyw fwyd nac offer ychwanegol fel dillad cynnes.

Cafodd ddillad cynnes a diod poeth cyn i'r gwirfoddolwyr ei dywys lawr y mynydd, gan gyrraedd y gwaelod am 01:00.

Rhybuddion tywydd

Dywedodd aelod o dîm Chwilio ac Achub Aberdyfi y gallai heriau elusennol ddenu pobl "heb fawr o brofiad, os o gwbl".

Gall pwysau eraill olygu bod ymdrechion yn mynd yn eu blaen pan fydd "yr holl dystiolaeth yn awgrymu" y dylid eu gohirio.

"Roedd tywydd gwael iawn wedi cael ei ragweld dros y penwythnos ddyddiau lawer ymlaen llaw, ac efallai y dylai hyn fod wedi bod yn rhybudd i adolygu sgiliau ac offer y grŵp cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ai peidio," meddai'r llefarydd.

"Fel elusen ein hunain, rydym yn deall yn iawn mai codwyr arian yw enaid sefydliadau o'r fath, ond byddem yn gofyn i bobl geisio sicrhau nad yw codi arian ar gyfer un elusen yn cael ei wneud ar draul, o ran amser ac adnoddau, un arall."