Plaid Cymru: 'Angen dadl deledu i drafod ymateb i Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Adam Price bod "llai o graffu" wedi bod yn ystod y pandemig coronafeirws

Dylai arweinwyr y pleidiau yng Nghymru gymryd rhan mewn dadl deledu ar argyfwng Covid-19, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Mae Adam Price wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru'n galw arno i gefnogi'r syniad o gael dadl gyhoeddus.

Dywedodd bod "llai o gyfle i graffu" wedi bod yn ystod y pandemig, ac y byddai pobl Cymru'n "elwa o glywed trafodaeth aeddfed".

Ond mae gwleidyddion Llafur wedi wfftio'r syniad, gydag un yn eu gyhuddo o "wleidydda" yn ystod pandemig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr alwad.

Yn ei lythyr at Mark Drakeford, mae Mr Price yn dweud: "Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai digynsail yn wleidyddol ac yn gyfnod o ofid mawr i nifer wrth iddynt golli anwyliaid neu ddioddef ansicrwydd gwaith.

"Yn naturiol, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau ar fyr rybudd, ond gresyn y bu llai o gyfle i graffu wrth i drefniadaeth ein Senedd addasu i'r normal newydd."

'Byddai pobl Cymru'n elwa'

Gydag arbenigwyr yn rhagweld cynnydd arall yn nifer yr achosion dros y misoedd i ddod, mae Mr Price yn awgrymu taw dyma'r amser "i ni fod yn dysgu gwersi".

"Mae rhannu syniadau - eu herio a'u cofleidio - yn rhan annatod o'n democratiaeth wrth i ni geisio sicrhau fod pobl Cymru'n cael y gynrychiolaeth orau posib," meddai.

"Yn yr ysbryd hwnnw, credaf mai dyma'r amser am ddadl gyhoeddus rhwng arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

"Byddai pobl Cymru'n elwa o glywed trafodaeth aeddfed cyn ein bod ni yng ngwres yr ymgyrch etholiadol."

Bydd etholiad Senedd Cymru'n digwydd fis Mai nesa.

Dywedodd ffynhonnell o Blaid Cymru taw dadl deledu fyddai'r "fformat orau" ar gyfer trafodaeth o'r fath mae Mr Price yn ei awgrymu achos y byddai'n caniatáu i fwy o bobl wylio.

'Nid nawr yw'r amser am ymgyrch etholiad'

Ond dywedodd AS Llafur Caerffili, Hefin David mai'r Senedd yw'r "lle i graffu".

"Mae gan arweinwyr pleidiau ddigonedd o amser yn ystod sesiynau'r Senedd. Nid nawr yw'r amser am ymgyrch etholiad," meddai ar Twitter.

Ychwanegodd AS Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies: "Dyma'r amser am ymateb difrifol i un o heriau mwyaf ein hoes. Nid gwleidydda."

Mewn ymateb i'r alwad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dadleuon am faterion o bwysigrwydd cenedlaethol yn digwydd yn y Senedd.

"Trwy gydol y pandemig, mae ffocws y prif weinidog wedi bod ar gadw pobl Cymru'n ddiogel a bydd yn parhau i wneud hynny."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies AS: "Rwy'n barod i ddadlau gydag unrhyw un, unrhyw bryd ac ar unrhyw adeg.

"Rwy'n synnu na wnaeth arweinydd trydedd plaid fwya'r Senedd gysylltu gyda mi fel arweinydd yr wrthblaid i drafod hyn o ystyried ei fod wedi ysgrifennu at y prif weinidog."