Ethol Ed Davey yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Ed Davey wedi ennill y ras i fod yn arweinydd nesaf y Democratiaid Rhyddfrydol ar draws y DU.
Ef oedd eisoes yn arweinydd dros dro y blaid, ac fe drechodd Aelod Seneddol arall y blaid, Layla Moran mewn pleidlais o aelodau.
Fe wnaeth Syr Ed sicrhau 63.5% o'r bleidlais, o'i gymharu â 36.5% Ms Moran.
Mewn digwyddiad yn Llundain dywedodd yr arweinydd newydd ei bod yn amser i'r blaid "ddeffro" ar ôl ennill dim ond 12% o'r bleidlais ledled y DU yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Daw'r canlyniad wyth mis wedi i'r hen arweinydd, Jo Swinson, adael ei rôl wedi iddi golli ei sedd yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.
'Ffrind i Gymru'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, ei bod yn "gyffrous iawn i ddechrau gweithio gydag Ed".
"Rwy'n gwybod y bydd yn helpu i gyfathrebu ein neges ryddfrydol, gadarnhaol ar adeg ble fo'i angen fwy nag erioed.
"Mae Ed yn ffrind i Gymru ac yn deall ein cenedl, ein traddodiadau, ac yn allweddol, datganoli a phwysigrwydd etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf."
Ychwanegodd gweinidog addysg Cymru, ac unig Aelod Senedd Cymru y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams bod gan Syr Ed "galon ryddfrydig a thosturiol".
"Mae'n ymgyrchydd gwych ac yn rhywun sydd â gonestrwydd a dewrder, sydd wedi cynnal ymgyrch egnïol a phroffesiynol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020