'Da ni'n bobl jest fel chi': profiad dyn ifanc hoyw
- Cyhoeddwyd
Yn gynharach eleni, bu pryderon am ddiogelwch pobl ifanc sy'n mynychu clwb ieuenctid LHDT yng Nghaernarfon. Cymru Fyw fu'n siarad gydag un aelod am ei brofiad, a'r gefnogaeth a'r rhagfarn mae wedi profi oherwydd ei rywioldeb.
"Ro' ni wedi meddwl ymuno yn gynharach ond do' ni ddim wedi ffeindio'r confidence i wneud - ond mis Mai nes i feddwl 'dwi angen y gefnogaeth, dwi am ymuno â'r clwb'."
Dydy'r ddwy flynedd ddiwethaf heb fod yn hawdd i Rhodri, sy'n 16, ac yn byw ar Ynys Môn.
Ar ôl dweud wrth ei deulu a'i ffrindiau ei fod o'n hoyw, fe gafodd gefnogaeth gan rai, ond ei drin yn wael gan eraill. Yn ddiweddar fe benderfynodd newid ysgol ac roedd angen hwb a chyfarfod pobl eraill.
Ymunodd â chlwb i bobl ifanc o'r gymuned lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy'n cael ei gynnal yng nghanolfan GISDA, Caernarfon, a dechrau gwneud ffrindiau newydd yn syth.
Cefnogaeth a pharch
"Dwi mor falch mod i wedi eu cyfarfod nhw," meddai.
"Dwi'n gofyn i fi fy hun: 'Pam neshi ddim cyfarfod nhw yn gynt? Pam do'n i ddim yn gwybod bod nhw'n bodoli yn gynt pan o'n i'n mynd trwy'r drafferth yma?'
"Dwi wedi cael sawl ffrind yn y clwb sy'n gefnogol a sy'n parchu fi. Maen nhw wedi helpu fi, ac yn dal i helpu fi i ddod i nabod fy hun a gwneud i mi deimlo'n well amdanaf fi fy hun."
Roedd y clwb LHDT yn y penawdau yn ddiweddar ar ôl i'r trefnwyr gynnal cyfarfod efo'r heddlu a'r awdurdodau i drafod cynnydd mewn "tyndra a gelyniaeth" oddi wrth pobl ifanc o du allan i'r clwb.
Mae Rhodri wedi profi awyrgylch annymunol wrth gerdded o'r clwb i ddal bws. Dywed bod aelodau eraill wedi cael profiadau gwaeth, yn cynnwys bygythiadau a wyau wedi eu taflu arnyn nhw.
"Dwi ddim wedi cael fy anafu yn gorfforol, ond dwi wedi cael fy mrifo gyda geiriau - mae o'n cael ei ddisgwyl os ydy chi'n dod allan yn hoyw," meddai.
"Dwi'm yn meddwl bod y rhai sy'n achosi'r drafferth yn gwerthfawrogi bod angen ffeindio'r confidence i fynd i'r clwb yn y lle cynta'. Dio ddim yn beth hawdd i fynd yno - mae'n gam mawr.
"Y gwir ydi, tydi pawb ddim yr un peth - s'dim rhaid i chi luchio wyau ar bobl jest i ddangos eich barn. Neges fi iddyn nhw ydi 'da ni'n bobol jest fel chi, da ni ddim isho neud unrhyw niwed i chi. Dim ots os ydi rhywun yn LGBT neu hil arall neu grefydd arall - 'da ni gyd yn bobl, 'da chi'n bobl, actiwch fel pobl'."
Ymateb rhai wedi brifo
Ymateb cymysg gafodd Rhodri pan ddywedodd wrth ei deulu a'i ffrindiau ddwy flynedd yn ôl ei fod yn hoyw.
Mae'n dweud iddo gael cefnogaeth gan ei rieni, ond doedd o ddim mor yn lwcus yn ei gyfoedion i gyd.
"Neshi 'neud o'r ffordd galed... neshi 'ddod allan' ar social media. Roedd pawb yn dweud 'hwre, llongyfarchiadau, mae'n gam mawr' i ddechrau. Ond wedyn roedd rhai yn jocian o gwmpas ac yn mynd rhy bell weithiau.
"Er bod fi'n deud wrth bawb i beidio, roedda nhw'n dal i ddweud pethau reit frwnt - rhai yn dweud mai banter oedd o, ond doedd o ddim yn banter i fi."
Ychwanegodd bod eraill wedi dweud nad oedden nhw eisiau cael eu gweld yn cymdeithasu gormod efo fo rhag ofn i bobl feddwl eu bod mewn perthynas ag o.
"Mae o dal i frifo hyd y diwrnod yma," meddai. "Gan fod nhw eisiau'r pellter nes i feddwl i fi fy hun, 'da chi'n gwybod be - nai roi pellter am byth, dyna fasa'r gora."
Dechrau newydd
Erbyn hyn mae o wedi newid ysgol, yn astudio Lefel A yn y chweched dosbarth, ac wedi cael cefnogaeth yno.
Ers mynd i'r clwb a bod yn agored am ei rywioldeb, mae o hefyd wedi cael nifer o bobl mewn sefyllfa debyg iddo yn cysylltu am ei gyngor.
Ei neges unwaith eto: 'mae pawb yn wahanol'.
"Jest gwna be ti eisiau - os ti isho dod allan, tyrd allan. Os yda chi isho aros yn y cwpwrdd neu'r closet arhoswch yna, arhoswch tan 'da chi'n barod. Meddyliwch be' yda chi'n gyfforddus ynoch chi eich hun yn gwneud, yn lle teimlo'r pwysa' i ddod allan.
"Roedd o wedi cymryd tua dwy flynedd i fi dderbyn fi fy hun, ella neith gymryd 10 diwrnod i chi, ella dwy awr. Does 'na'm brys o gwbl i neb. Ond os yda' chi'n teimlo pressure neu yn teimlo wnaiff petha ddim troi allan yn wych - cofiwch bod 'na gymorth i'w gael."
Hefyd o ddiddordeb: