Cynghrair Europa: Y Seintiau Newydd 3-1 MŠK Žilina
- Cyhoeddwyd
Fe sicrhaodd dwy gôl yn amser ychwanegol fuddugoliaeth i'r Seintiau Newydd yn rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Roedd gôl Leo Smith a chic o'r smotyn Adrian Cieslewicz yn ddigon i drechu MŠK Žilina o Slofacia yn Neuadd y Parc, Croesoswallt.
Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr hanner, ond y tîm cartref darodd gyntaf wedi'r egwyl, gyda Louis Robles yn rhwydo ar ôl 56 munud.
Fe unionodd yr ymwelwyr y sgôr diolch i gic o'r smotyn Patrik Myslovic gyda llai na chwarter awr o'r 90 munud yn weddill.
Ond fe rwydodd y Cymro Cymraeg o Borthmadog, Smith ac yna'r asgellwr profiadol Cieslewicz - y ddau yn gyn-chwaraewyr Wrecsam - i sicrhau bod y Seintiau yn camu i'r ail rownd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020