Cynghrair Europa: Valletta 0-1 Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Europa League trophyFfynhonnell y llun, Harold Cunningham - UEFA

Mae'r Bala drwodd i ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Valletta.

Y capten Chris Venables sgoriodd y gôl allweddol wedi 38 munud o chwarae ym Malta.

Roedd golwr yr ymwelwyr, Alex Ramsay, a ymunodd o Gaernarfon dros yr haf, yn arwrol ar y noson.

Fe arbedodd gic o'r smotyn i'r ymwelwyr wedi awr o chwarae i gadw'r sgôr yn 1-0.

Dywedodd rheolwr Y Bala, Colin Caton cyn y gêm mai dyma fyddai buddugoliaeth enwocaf y clwb petai nhw'n ennill.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Bala Town F.C.

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Bala Town F.C.