Cartrefi gofal 'angen amser' i groesawu ymwelwyr eto
- Cyhoeddwyd
Mae llawer o gartrefi gofal yn annhebygol o ganiatáu ymweliadau dan do y penwythnos yma er gwaethaf canllaw newydd, yn ôl cynrychiolwyr y sector.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Iau fod ymweliadau dan do â chartrefi gofal oedolion a phlant yn cael ailddechrau o ddydd Gwener, ddiwrnod yn gynt na'r hyn oedd wedi ei gyhoeddi'n flaenorol.
Yn ôl cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft fe allai'r newid, er cystal y bwriad, fod wedi codi disgwyliadau afrealistig ei fod yn dod i rym ymhob achos yn syth.
Dywed Llywodraeth Cymru fod trafodaethau wedi digwydd ers wythnosau a bod y canllaw wedi ei lunio ar sail adborth gan gartrefi gofal.
Wrth gyhoeddi'r newid, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething mai'r cartrefi ei hunain fyddai'n penderfynu pryd fyddai modd croesawu ymwelwyr unwaith yn rhagor.
Fe wnaeth hefyd annog ffrindiau a pherthnasau i fod "yn amyneddgar a goddefgar wrth i gartrefi ddechrau gweithio ar y trefniadau".
Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mai ailagor cartrefi gofal oedd un o'r "penderfyniadau mwyaf difrifol" i Lywodraeth Cymru.
"Gweithredu gyda phwyll mawr"
Mae'r cyngor swyddogol yn awgrymu cyfyngu ymweliadau i hanner awr o hyd, cael dim mwy na dau berson o'r un aelwyd, a chaniatáu i blant ifanc iawn ymweld dan amgylchiadau arbennig yn unig.
Dywedodd Mr Kreft fod y canllaw'n "fanwl ac yn ddefnyddiol iawn", ond fe allai fod wedi creu'r argraff "fod mwya' sydyn fydd drysau cartrefi gofal yn ailagor ac yn amlwg nad dyna'r achos".
Y brif flaenoriaeth, meddai, fydd diogelu preswylwyr bregus a staff.
"Bydd pob cartref gofal angen amser i astudio'r canllaw'n fanwl felly nid ydym yn rhagweld llawer o ymweliadau'n digwydd yn syth a bydd darparwyr, yn gymwys, yn gweithredu gyda phwyll mawr.
"Mater arall yw'r ffaith na fyddwn ni wedi dewis i'r newid yma ddigwydd ar benwythnos Gŵyl Banc."
Dywedodd Lynne Woodrow, rheolwr Cartref Gofal St Isan yng Nghaerdydd, y byddai wedi gwerthfawrogi cael arweiniad ynghynt.
"Roeddwn wedi disgwyl canllaw erbyn o leiaf ddydd Mercher i wneud pa bynnag addasiadau sydd angen i ni wneud," meddai.
"Ond gallen ni ddim cael canllawiau ar ddydd Gwener a disgwyl gallu agor yr un diwrnod.
"Mae'n rhaid cael balans rhwng y risg o Covid gydag ymweliadau dan do a phwyso a mesur y pryderon a buddion i les preswylydd."
'Mae'n golygu popeth i ni'
Wedi misoedd o gadw mewn cysylltiad trwy Whatsapp a Facetime, yn lle'r ymweliadau arferol deirgwaith yr wythnos, dydy Linda Ireland "methu aros" i gael gweld ei mam 92 oed, Alice Morel, dan do am y tro cyntaf ers dechrau'r cyfnod clo.
"Gynted ag y dywedodd [staff y cartref] wrtha'i y gallwn i ymweld y tu allan, roedd yn emosiynol iawn.
"Fy unig bryder ydy diogelwch. Rwy'n poeni am y risg ychwanegol, ond os yw popeth yn cadw'r rheol pellter cymdeithasol ac wedi ei wneud yn gywir, bydd yn ffantastig.
"Mi wna'i rwymo fy hun o 'nghorun i'm sawdl mewn plastig a PPE os oes rhaid oherwydd mae'n golygu popeth i ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020