Dirwyon o £10,000 am drefnu rêf anghyfreithlon Banwen

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn safle'r rêf dros y SulFfynhonnell y llun, Richard Swingler
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna bresenoldeb heddlu ar safle'r rêf dros nos gan fod tua 1,000 o bobl dal yna

Mae wyth o bobl wedi cael dirwyon o hyd at £10,000 ar ol rêf anghyfreithlon mewn ardal wledig ar gyrion Bannau Brycheiniog, ddyddiau ar ôl i gosbau llymach ddod i rym.

Mae nifer hefyd wedi eu harestio ar gyhuddiadau o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Roedd tua 3,000 o bobl wedi teithio o wahanol rannau o'r DU i'r digwyddiad yn ardal Banwen, yng Nghwm Dulais.

Mae cyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru'n caniatáu i hyd at 30 o bobl yn unig gyfarfod tu allan.

Dywed Heddlu De Cymru fod swyddogion wedi parhau ar y safle dros nos a'u bod wedi rhoi gorchmynion i bobl am ddefnyddio'u cerbydau mewn ffordd wrthgymdeithasol.

Mae offer cerdd hefyd wedi cael eu cymryd dan orchymyn.

"Effaith sylweddol ar y gymuned"

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jason James eu bod wedi defnyddio "adnoddau sylweddol" yn y safle gydol dydd Sul "gan wneud pob ymdrech i drafod gyda'r trefnwyr" a'r bobl oedd wedi teithio yno.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn anghyfreithlon ac yn cael effaith sylweddol ar y gymuned," meddai, gan ychwanegu fod nifer o bobl wedi gadael y safle erbyn nos Sul "ond mae yna dal tua 1,000 o bobl yma".

"Mae'r rhai sy'n ymgynnull yna yn gwybod bod eu gweithredoedd yn anghyfrifol ac rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill ac yn defnyddio'r ddeddfwriaeth sydd ar gael i ni, ond mae angen sicrhau fod unrhyw gamau yn cael eu gweithredu'n ddiogel."

Ffynhonnell y llun, Richard Swingler
Disgrifiad o’r llun,

Mae plismyn yn credu bod pobl wedi teithio o bobl rhan o'r DU i'r ref ym Manwen

Dywedodd un o drigolion Banwen, Huw Evans, wrth Post Cyntaf ei fod wedi trafod y sefyllfa gyda'r heddlu.

"Maen nhw'n g'weud bod nhw'n delio gydag e ond s'dim byd rili maen nhw'n gallu neud," meddai.

"Mae'r pobol hyn yn dod lawr... o'r Alban, gogledd Lloegr, Lerpwl. 'So nhw'n becso beth maen nhw'n dod lawr gyda nhw, dim ond bod nhw'n gallu ca'l amser da lan ar y mynydd. S'mo nhw'n meddwl dim am y bobol leol sy'n byw yma."

Ffynhonnell y llun, Alan Richards | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref Banwen ger Bannau Brycheiniog yn le tawel fel arfer

Hefyd ar Post Cyntaf dywedodd Emyr Wyn Francis, cynghorydd cymuned ym Mlaendulais, ychydig filltiroedd o bentref Banwen, bod hi'n "anodd credu" bod gymaint wedi teithio yno, yn enwedig yng nghanol pandemig.

Doedd gan drigolion lleol, meddai, ddim syniad beth oedd yn digwydd "nes bod cannoedd o geir wedi dechra' parcio i fyny", ac wrth basio'r safle tua 21:00 nos Sul roedd dal llawer o geir a phobl o gwmpas.

"O'dd e'n anodd credu hefyd faint o heddlu a ambiwlansys o'dd o gwmpas, sydd hefyd yn rhywbeth 'dan ni'n poeni amdano yn lleol, o ystyried be sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd gyda'r pandemig," meddai.

Pryder arall, meddai, yw "lluniau o'r annibendod sydd yna a mae'n amlwg pobol leol fydd yn gorfod tacluso hynny".

Ychwanegodd: "Mae'r ddirwy o £10,000 wedi mynd i'r bobol sydd wedi trefnu e, sydd yn rhywbeth, ond... os mae rhywun yn benderfynol o drefnu'r math yma o ddigwyddiad... wel, dyna sy'n mynd i ddigwydd."