Dynes 'ddim wedi gweld' cynghorydd cyn ei daro o'i feic

  • Cyhoeddwyd
Christopher Jones a Lowri Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christopher Jones a Lowri Powell yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

Mae dynes sydd wedi'i chyhuddo o achosi marwolaeth cynghorydd ar gyrion Aberystwyth wedi mynnu na welodd hi ef cyn ei daro oddi ar ei feic.

Roedd Paul James, 61, yn seiclo ar yr A487 tuag at Aberystwyth pan gafodd ei daro oddi ar ei feic rhwng Waunfawr a Chomins Coch ar 11 Ebrill 2019.

Mae Lowri Powell, 44 o Benrhyn-coch, a Christopher Jones, 40 o Bontarfynach, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal, gan ddweud na welon nhw Mr James oherwydd bod yr haul yn eu llygaid.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Mr James yn seiclo fyny allt tuag at dro yn y ffordd pan gafodd ei daro gan ddrych ar gar Ms Powell.

Fe ddisgynnodd i'r ffordd ac yna cafodd ei daro gan gar Mr Jones a'i lusgo am tua 35 metr.

'Ni fyddwn i wedi ei daro'

Dywedodd Ms Powell ddydd Iau ei bod yn gyrru ar hyd y ffordd honno tua phum gwaith yr wythnos.

"Roedd fy merch yng nghampfa'r brifysgol ac roedd angen ei 'hôl," meddai wrth y llys.

"Cefais fy nallu gan heulwen llachar iawn, ac fe wnes i dynnu'r sun visor i lawr."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Paul James, oedd yn gynghorydd Plaid Cymru, ei ddisgrifio fel "dyn anhygoel"

Gofynnodd yr erlynydd Jim Davis wrthi a oedd hi'n teimlo mai ei chyfrifoldeb hi oedd bod Mr James wedi cael ei daro oddi ar ei feic.

"Pe bawn i wedi ei weld, ni fyddwn i wedi ei daro oddi ar ei feic," meddai.

Yn gynharach ddydd Iau clywodd y llys ran o gyfweliad Ms Powell gyda'r heddlu, ble dywedodd y byddai'r digwyddiad yn cael effaith arni "am weddill fy oes".

'Sgrechian i ffonio am ambiwlans'

Yn ei gyfweliad ef gyda'r heddlu fe ddywedodd Mr Jones ei fod yn gyrru rhwng 50 a 53mya cyn y digwyddiad a'i fod yntau wedi cael ei ddallu gan heulwen llachar.

Dywedodd ei fod yn gwisgo sbectol haul ar y pryd ond na welodd Mr James, oedd yn gwisgo siaced lachar ar y pryd.

"Fe wnes i ddechrau sgrechian ar fy ngwraig i ffonio am ambiwlans," meddai yn ei gyfweliad.

"Rydw i wedi ei chwarae dro ar ôl tro yn fy meddwl miliynau o weithiau."

Fe wnaeth Mr Jones ddechrau llefain pan gafodd ei ddatganiad i'r heddlu ei ddarllen i'r llys.

Mae'r achos yn parhau.