Apêl i bobl gadw pellter yng Nghaerffili a'r Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Mesur dau fetr yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl yng Nghaerffili a rhannau o'r Rhondda yn cael ei hannog i ddilyn y rheolau pellter cymdeithasol yn sgil pryder ynghylch clystyrau o achosion coronafeirws yn yr ardal.

Daw'r apêl i bobl ddilyn y rheolau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae canolfan brofi yn cael ei sefydlu dros dro yng Nghanolfan Hamdden Caerffili yn sgil "cynnydd sylweddol mewn achosion positif" yn yr ardal yn yr wythnos ddiwethaf.

Bydd unrhyw un yn cael mynd yno a gofyn am brawf, heb orfod gwneud apwyntiad, fel rhan o'r ymchwiliad i'r clystyrau o achosion newydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Fe wnaed apêl i bobl i ddilyn y rheolau yn rhan o'r Rhondda hefyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn dilyn rhagor o achosion o'r haint yno.

Dywedodd Dr Robin Howe, sy'n gyfrifol am ymateb ICC i'r haint: "Rydym yn ymwybodol o nifer o achosion COVID-19 yn ardal y Rhondda isaf, yn enwedig yn Nhonypandy, Porth a Phenygraig yn Rhondda Cynon Taf. 

"Mae'r haint yn cael ei drosglwyddo rhwng grwpiau ffrindiau, cartrefi a sefyllfaoedd cymdeithasol," meddai.

"Mae timau Profi, Olrhain a Gwarchod yn gweithio gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio ac yn cysylltu'r bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad a'r rhai sydd wedi profi'n bositif.

"Mae cyfran nodedig o'r achosion positif ymysg oedlion ifanc, ac yn siomedig mae rhai wedi bod yn gyndyn o rannu manylion ynglyn a lle maen nhw wedi bod a gyda phwy maen nhw wedi bod mewn cysylltiad.

"Mae'n hanfodol fod gwybodaeth gywir yn cael ei rannu gyda'r timau Profi Olrhain a Gwarchod.

"Casglu gwybodaeth er mwyn cadw pobl eraill yn saff yw eu hunig bwrpas, ac nid barnu unrhyw un. Mae unrhyw wybodaeth a roddir i'r timau yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol."

"Trwy beidio rhoi gwybodaeth gywir i'r timau mae'r bobl hyn yn peryglu eu teuluoiedd a'u ffrindiau. Rydym yn eu hannog i feddwl am eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymunedau. Yn syml maen nhw'n peryglu iechyd pobl eraill trwy beidio aros gartref a chymysgu yn y gymuned, yn enwedig os oes symptomau gyda nhw."

'Cynnydd sylweddol'

Wrth siarad am y sefyllfa yng Nghaerffili dywedodd Dr Rhianwen Stiff, ymgynghorydd rheoli clefydau trosglwyddadwy ICC: "Bu cynnydd sylweddol mewn achosion positif coronafeirws yng Nghaerffili yn yr wythnos ddiwethaf."

"Mae ein hymchwiliadau'n dangos fod diffyg ymbellhau cymdeithasol gan grŵp bach o bobl o bob oedran mewn ystod o leoliadau gwahanol wedi arwain ar ledaenu'r feirws i rannau eraill o'r boblogaeth."

"Mae'n ymddangos fod pobl, wrth i'r cyfyngiadau lacio, wedi manteisio ar allu gwneud mwy o weithgareddau, ond mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio pwysigrwydd ymbellhau cymdeithasol - gyda'r canlyniad posib o drosglwyddo [Covid-19] i'r gymuned ehangach."

Ychwanegodd bod y feirws yn gallu cael ei drosglwyddo yn fwy rhwydd tu fewn a bod angen i bobl fod yn fwy gofalus ynglŷn ag ymbellhau cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan brofi dros dro'n cael ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Caerffili

Mae'r awdurdodau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd mesurau eraill hefyd, fel golchi dwylo a sicrhau bod dim mwy na 30 o bobl yn cael cymdeithasu tu allan, gan rybuddio bod y feirws â'r potensial i ladd yr unigolion mwyaf bregus.

Penderfynodd y tri chorff, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yng Ngwent, fod "angen canolfan brofi dros dro i reoli'r lefel uwch o achosion".

Mae Dr Stiff yn gwahodd trigolion Caerffili i gael prawf os ydyn nhw "wedi nodi hyd yn oed y symptomau coronafeirws ysgafnach, neu os ydyn nhw wedi bod yn teimlo'n wael yn gyffredinol heb reswm amlwg".

Ychwanegodd: "Mae adnabod yr unigolion hynny sydd heb symptomau difrifol ond sydd yn cario'r feirws yn hanfodol i reoli lledaeniad y feirws."

Y sefyllfa ddiweddaraf ar draws Cymru

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener bod 51 o achosion Covid-19 newydd wedi'u cofnodi ar draws Cymru, a bod 16 o'r rheiny yng Nghaerffili.

Roedd 14 o'r achosion yn Rhondda Cynon Taf, wyth yng Nghaerdydd a thri bob un yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam.

Mae'n golygu fod cyfanswm yr achosion yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach yn 18,206.

Doedd dim rhagor o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â'r feirws, sy'n golygu bod y cyfanswm yn dal yn 1,596.

Cafodd 6,831 o brofion eu cynnal yng Nghymru ddydd Iau.