Teyrnged i dad 'llawn hwyl' fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur lleol a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful wedi cael ei ddisgrifio gan ei deulu fel tad "llawn hwyl" oedd yn edrych ymlaen at enedigaeth ei drydydd plentyn.
Bu farw Aaron Edwards, oedd yn 42 oed, yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad ar gylchffordd Gurnos yng nghyffordd Lôn Goitre nos Sul.
Dywedodd ei deulu ei fod yn feiciwr modur brwd a'i fod wedi marw "yn gwneud ei hoff beth yn y byd".
Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth gan dystion.
Roedd beic modur Kawasaki coch Mr Edwards mewn gwrthdrawiad â char Ford Focus du tua 18:10.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Fydd bywyd byth yr un peth eto i unrhyw un ohonon ni.
"Cafodd bywyd Aaron ei dorri'n fyr yn drasig pan roedd ganddo gymaint i edrych ymlaen ato, gan gynnwys genedigaeth ei drydydd plentyn, yr oedd e a'i ddyweddi eisiau gymaint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2020