Pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i Gaerdydd brynhawn Sul wrth i Gymru herio Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Er bod nifer o enwau mawr fel Aaron Ramsey a Joe Allen yn absennol o'r garfan, llwyddodd y tîm i drechu'r Ffindir yn Helsinki nos Iau.
Fe fydd y garfan yn gobeithio am fuddugoliaeth arall brynhawn Sul yn erbyn gwlad sydd 36 safle yn is yn netholion y byd.
Mae gan Ryan Giggs opsiwn newydd ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda chwaraewr Bournemouth, David Brooks wedi ymuno â'r garfan ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i Gymru.
Dydy'r asgellwr ddim wedi ymddangos dros Gymru ers Mehefin 2019 oherwydd anafiadau.
Dywedodd y rheolwr bod cael mwy o opsiynau, a chael chwaraewyr ifanc fel Neco Williams, 19, Dylan Levitt, 19, a Ben Cabango, 20, yn dod i'r amlwg i'w groesawu, er bod hynny'n creu penbleth o ran dewis tîm.
"Mae'n safle da i fod ynddo," meddai Giggs.
"Mae pawb ar gael, mae Brooks yn dod yn ôl ac mae gen i gur pen yn penderfynu ar dîm."
Mae'n bosib y bydd Brooks yn mynd yn syth i'r tîm cyntaf, gyda phryder am ffitrwydd Gareth Bale.
Cafodd ymosodwr Real Madrid ei eilyddio ar hanner amser yn erbyn Y Ffindir ond dywedodd Giggs mai dyna'r bwriad o'r dechrau oherwydd ei ddiffyg cyfleoedd ym Madrid.
'Hapus iawn gyda Neco'
Gydag amddiffynnwr ifanc Lerpwl, Neco Williams wedi dod ymlaen i ennill ei gap cyntaf yn Helsinki, mae Giggs yn dweud bod ganddo gyfle i ddechrau yn erbyn Bwlgaria.
"Roedd hi'n ymddangosiad cyntaf gwych gan Neco," meddai.
"Fe ddaeth ymlaen a rhoi egni i ni, ac mae wedi dangos ei safon wrth i ni hyfforddi.
"Ry'n ni'n hapus iawn gydag ef ac fe fyddai'n ystyried ei ddechrau."
Mae'r gic gyntaf rhwng Cymru a Bwlgaria am 14:00 yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd31 Awst 2020